PLAY PODCASTS
Yr Haclediad

Yr Haclediad

159 episodes — Page 4 of 4

Episode 9: 9: Yr un [redacted]

Megis ffreis Ffrengig a Big Mac dyma Haclediad #9 mewn amser record o gyflym! Croesawn y polymath cyfryngol Cymraeg, Rhodri Ap Dyfrig (@nwdls) i’r Haclediad am y rhifyn hwn; a byddwn yn trafod dyfodiad iPhone app S4C, sïon yr iPhone 5, e-ddarllenwyr ac e-lyfrau Cymraeg a datblygiadau’r Windows Phone. Os nad yw Twitter wedi rhoi’n manylion cyswllt i’r cwrt, a’n byddwn hefyd yn trafod effaith goruwch waharddebau (superinjunctions, diolch heddlu iaith!) ar rwydweithiau cymdeithasol. Diolch eto am eich cyfraniadau i gyd, i Gafyn Lloyd am gymysgu’r Haclediad ac i bawb sy wedi bod yn gwrando hyd yn hyn! Criw’r Haclediad – Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Sioned (@llef) The post Haclediad #9 – Yr un [redacted] appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guest: Rhodri ap Dyfrig.

May 27, 20111h 11m

Episode 8: 8: Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8!

Mae hwn wedi bod yn bragu gyda ni ers tipyn, ond yn y rhifyn blasus hwn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y stori (neu beidio) o dracio lleoliad gan Apple, sut wnaeth y briodas Frenhinol styrbio trydar y genedl a phroblemau dybryd y Rhwydwaith PlayStation. I ddod a ni nôl i dir sanctaidd y gîcs byddwn yn trafod Star Wars yn cael ei gyhoeddi ar BluRay, a’r dyfodol i ffrydio fideo. Diolch am wrando, cofiwch anfon sylw os feddyliwch chi am unrhyw beth i’w ychwanegu i’r profiad! Hwyl, Tîm yr Haclediad The post Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

May 21, 201145 min

Episode 7: 7: Yr un sy’n Magnifico

Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, Bryn, Iestyn a Sioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C. ‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r iPad2 wedi cyrraedd, ydi o werth y ciwio? Ac yna mae dyfodiad gwasanaeth cwmwl Amazon hefyd i ni gael busnesa ar tech rhyngwladol yn ystod y rhifyn yma yn ogystal â popeth ychydig agosach i gartre’. Diolch am wrando, a chofiwch adael sylw i ni gael gwybod be da chi’n ei feddwl: da neu ddrwg! Criw’r Haclediad The post Haclediad #7 – Yr un sy’n Magnifico appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Apr 5, 201149 min

Episode 6: Yr un ar ôl yr un byw!

Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am ddyfodiad Umap Cymraeg, yr aggregator trydar Cymreig. Byddwn hefyd yn sôn am yr anghydfod rhwng Apple a rhai o’u cyhoeddwyr, dyfodiad yr iPad 2 a phosibiliadau rheolydd y Microsoft Kinect nawr bod teclyn datblygu wedi ei rhyddhau iddo. Fel pob rhifyn arall, bydd digon o fwydro technoleg a’r we o’n cornel ni o’r rhyngrwyd – mwynhewch! The post Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Mar 2, 201155 min

Episode 5: Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011

O’r diwedd, mae Hacio’r Iaith 2011 wedi dod a mynd, a’r oll sydd ar ôl i chi yw’r haclediad byw! Wedi ei recordio cyn lansiad yr Umap Cymraeg gwych (cy.umap.eu), mae ‘na dal ddigon o drafodaeth yn y rhifyn byw arbennig hwn. Mae’r haclediad yn trafod ychydig o newyddion y dydd, a fe gafon ni lwyth o gwestiynau gan y gynulleidfa wych, a gewch chi wrando i glywed y rhai gwirion a gwirioneddol ddiddorol! Yn yr haclediad mae Iestyn (@iestynx), Bryn (@bryns) a Sioned (@llef) yn rhoi’r we yn ei le, ac mae aelod mwyaf newydd y tîm Meilyr (@meigwilym) yn ymuno â ni hefyd am yr eildro. Diolch am wrando, a chofiwch roi sylw, dda neu ddrwg! The post Haclediad #5 — Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guest: Mei Gwilym.

Feb 2, 201147 min

Episode 4: Yr un gyda’r gwestai arbennig!

Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym (@meigwilym), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned (@llef), Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a thrafod gêm iPhone Gymraeg gyntaf ‘Cerrig Peryg’ ynghyd â llawer mwy. Mae siawns i glywed am App Inventor Android hefyd, sy’n declyn da ni’n gobeithio ei ddefnyddio yma ar ye Haclediad yn fuan, croesi bysedd. Ond y pwnc sydd wedi tanio’r mwyaf ar yr Haclediad yma yw, wrth gwrs, digwyddiad Hacio’r Iaith ar y 29ain o Ionawr yn Aberystwyth. Dewch draw, neu os na allwch chi, gwrandewch allan am yr Haclediad byw o’r digwyddiad, allwch chi ddim colli allan ar honno! Cofiwch adel sylw yma os oes unrhyw beth gennych i’w rannu, da ni wastad yn falch iawn o glywed eich syniadau, sylwadau a synfyfyrion. The post Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guest: Mei Gwilym.

Jan 19, 201150 min

Episode 3: Haclediad Y Nadolig

Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3! Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd. Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad y Beatles i iTunes; mwy ar broblemau diogelwch Facebook, a byddwn yn holi os yw’n troi yn ghetto i’r Gymraeg arlein. Hefyd gwybodaeth ECSGLIWSIF ar ddigwyddiad Hacio’r iaith 2011, a beth mae’r cyfranwyr yn chwilio amdano o sach Siôn Corn. Mwynhewch, a ‘Dolig Llawen i chi gyd! The post Haclediad Y Nadolig appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Dec 3, 201044 min

Episode 2: Yr Ail Ddyfodiad

Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?! Wele Haclediad #2. Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig. Buom ni’n trafod: “2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb am hwn? Beth am fynediad band-llydan yng Nghymru? Hefyd, ydi’r ymgyrch parth .cym yn ddibwys a’i gymharu gyda’r ymgyrch sy angen ar gyfer band eang yng nghefn gwlad? Windows 7 Series phone, hands on, be di’r farn? Ydi hi’n hen bryd i ni weld fwy o e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ag iBooks? A beth am y term “eLyfr?” ydi o’n gwneud synwyr? Tamaid i orffen: Gwefan Tywydd newydd S4C – beth yw’r farn? Diolch eto i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com. Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar [email protected], neu drwy drydar. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad The post Haclediad #2 – Yr Ail Ddyfodiad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Nov 8, 201050 min

Episode 1: Croeso i’r Haclediad

“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod Mac allan o’i system. Gyda defnydd estynedig Bryn o’r iPad, anrheg ‘Dolig cynnar yr Apple TV gan Iestyn, a Sioned yn cracio dan y gwasgedd a gadael i iMac ddyfod i’w thŷ, mae digon i chi wrando arno, ond dim gormod i syrffedu arno gobeithio! Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar [email protected]. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad O.N. Ffrwd iTunes yn dod yn fuan. Diolch yn fawr i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com The post Croeso i’r Haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Oct 25, 201039 min