PLAY PODCASTS
Yr Haclediad

Yr Haclediad

159 episodes — Page 2 of 4

Hamiltwrd

E

Tro yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn brwydro trwy hellscape teulu’r Windsors i gadw cwmni efo chi am y 2~ awr nesa. Yn ogystal â thrafod toxic Roblox, rhaglen ddogfen ‘The Instagram Effect’ a ffilm ddogfen anhygoel Dan Olson ‘Line Goes Up -The Problem with NFTs’; byddwn ni’n eich cyflwyno i erchylltra ‘Diana - The Musical’. So diolch i Sioned am awgrymu hwna i ni gyd, a sbwylio mis pawb. Gwd job 😬 Os hoffech chi gefnogi’r fath ffwlbri, beth am daflu cwpl o bunnoedd i’r cwpan Ko-fi fan hyn? Diolch eto am wrando 😊

Feb 18, 20222h 30m

Hei Pen Pidyn

E

Mae’n amser dechrau’r flwyddyn efo pennod XXL arall o’ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili 🤓 ‘Da ni wedi newid y drefn chydig mis yma, felly fe gewch chi bodlediad CYFAN cyn i ni hitio’r FfilmDiDdim, so fyny i chi lle da chi am neidio off y thrill ride o sioe 😆 Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yma i awgrymu sut i wario £7.5 miliwn o arian Digidol i S4C, newid y ffi drwydded a chwerthin ar stwff random CES ymysg llwythi o bethau eraill. #FfilmDiDdim y mis ydy’r unigryw RED NOTICE 🚨 Ydy’r isdeitlau Cymraeg yn gwneud y ffilm yn anhygoel o brofiad, neu ydy veins pen Y Rock yn transendio ffiniau iaith heb eu help? Sgipiwch y chapter markers yn syth i weld 😊 A DIOLCH MAWR IAWN i Ross Mc Farlane a Jamie am roi arian hael yn tip jar y sioe draw ar Ko-Fi - gwnewch chi’r un peth i gael shout out ar y sioe 🥳 Diolch am wrando a welwn ni chi mis nesa 😚

Jan 24, 20222h 49m

Santa-ta 2021

E

🎉 Diolch ENFAWR i Gwyn T. Paith am tip anhygoel trw Ko-fi fydd yn hostio’r sioe am 6 mis nesa! 😍 🎄 Dyma hi, eich epic cael-chi-trwy-Dolig Haclediad! Dewch i’r parti Dolig i glywed am wins, downars (dim lot, addo!) a gobeithion Iest, Bryn a Sions am y flwyddyn dwetha, a’r flwyddyn i ddod. 🎅 Ac OBVS byddwn ni’n trafod twrdyn ffresh o ffilm - Father Christmas is Back - a gan fydd economi Cymru yn rhedeg ar OnlyFans a Netflix Christmas Movies o hyn mlaen, cymwch notes! ⭐️ Hoffai tîm yr Haclediad hefyd anfon ein cariad i bawb sydd wedi colli rhai annwyl, neu yn dioddef dros yr ŵyl, dydy Dolig ddim wastad yn adeg hapus - plis ewch i meddwl.org am gyngor ac adnoddau i’ch helpu i ddod trwyddi elenni.

Dec 24, 20212h 52m

Bataverse

E

🔥Cwtshwch yn agos i’r firepit rhithiol a neidiwch mewn i metaverse yr Haclediad am bennod newydd sbon gaeafol🔥 Y mis yma bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn sibrwd y newyddion tech, gemau a diwylliant diweddaraf i’ch clustiau - yn ogystal â gwylio ffilm ARALL o 1997: Batman & Robin, bet bo chi methu aros am honna. A fydd B&R yn “Valerian Level”? Gwrandewch i ffindio allan… 🎉 Diolch enfawr i bawb sy’n lawrlwytho, ond yn arbennig i Matthew Madison am y Ko-Fi sydd wedi talu am y ‘hosting’ mis yma. ko-fi.com/haclediad 🎉

Nov 23, 20212h 29m

Bondigrybwyll

E

Bron i 3 awr o gadgets, sgwrsio suave a gwisgoedd arbennig... Bond film newydd neu Haclediad #103? Pam ddim yn ddau?! Yup, mae’ch hoff cusping Milennials chi nôl efo newyddion yr N64 y dod i Switch, y Facebook Files a #FfilmdiDdim arall o’r 90au - y clasur am hawliau darlledu - Tomorrow Never Dies Diolch am danysgrifio - cofiwch bod hi’n beryg i wrando ar yr Haclediad mewn un go, defnyddiwch y chapter markers gwych gan Iest #podresponsibly

Oct 28, 20213h 25m

Zig-a-Zig-Nah. Just nah.

E

🍂Mae’r hydref yma, cwtshwch lan gyda Bryn, Sions a Iestyn am dipyn o Spice a llond lle o afalau… Ydi, mae’r iphone 13 yma, ma grŵp Facebook dal yn crîps a #ffilmdiddim y mis ydy’r unigryw SpiceWorld: Ai Dyma’r Ffilm Waethaf i Nhw Wylio Erioed?! Diolch am danysgrifio, gwrando a chefnogi’r Haclediad 🥰

Sep 19, 20212h 57m

S**t Handwich

E

Mae’r haf yn dod i ben, ond mae gan yr Haclediad bennod mor hir â phenwythnos gŵyl y banc i chi joio... O’r teslabot, ac amddiffyn plant gan Apple i Only Fans yn banio pr0n mae na rywbeth i bawb ma — a ffilm-di-ddim sy'n lanast o franchise starter, Suicide Squad (2016) Hyn i gyd ac awgrymiadau be i wylio/darllen/gwrando am y mymryn o haf sydd ar ôl yn 2021 - diolch am wrando 😘

Aug 28, 20212h 34m

Iawn Cant?

E

Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae Bryn, Sions ac Iest wedi creu miloedd o oriau o #cynnwys i’ch clustiau chi — a dyma benllanw eu celf clywedol — pennod 100 o’r Haclediad! Yma byddwn ni’n trafod bach o tech (podlediad ‘Hyfryd iawn’ ar Spotify, app Newydduon S4C), bach o ethics (rhannu data iechyd) a cachlwyth o stwff da i wylio ar streaming. I topio’r cyfan, ymunwch â ni am ein trip cyntaf i fyd ffilms di ddim Liam Neeson efo’r juggernaut (geddit) o #FfilmdiDdim Ice Road Diolch am wrando! 🚛🚐🚛

Jul 30, 20212h 50m

Sbeshal Audio

E

Croeso i'ch chill hang misol am tech, TV a ffilms mor wael mae nhw'n... wael?! Mis yma mae Bryn, Iest a Sioned yn trafod holl ddatblygiadau shiny newydd WWDC Apple; yn rhoi tro ar ffilm di ddim "Ender's Game" ac wrth gwrs yn cynnig cwpl o oriau o #cynnwys i gael chi trwy weddill 2021 efo gwên ar eich gwyneb ☺️ Welwn ni chi mis nesa am bennod... 100🤯

Jun 21, 20213h 0m

Cream of the Cymoedd

E

OK, so chi’n edrych ar y running time yna ac yn meddwl “be ddiawl alle gyfiawnhau 3hr+ running time?” SPECIAL GUEST, na be! Mis yma, mae Bryn, Iest a Sions yn croesawu Mr Game and Watch ei hun, Gav Murphy i’r sioe! Rhan o’r RKG Video collective, yr enwog @CymroGav ar twitter a basically y boi ma’r BBC yn ffonio i gael rwyn i siarad am ‘games a ballu’. Bydd Gav a’r criw yn siarad am SUPER MARIO BROS (1993) - diolch massive iddo am ddod ar y sioe ☺️ Checkiwch y chapters i weld beth fyddwn ni’n trafod, mae Iest yn gweithio mor galed arno nhw bob mis, sai’n embarrasing i chi fethu’r hidden gems ‘na Subscribiwch a rhowch cash i ni ac ati, worrevsSpecial Guest: Gav Murphy.

May 23, 20213h 21m

Non Fungible Gojira

E

Tro ‘ma ar eich hoff substitute am fywyd cymdeithasol tan i’r pybs agor: bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn checkio allan fights mawr byd tech, a fights mawr Kaiju yn Godzilla King of the Monsters. Ydy NFTs yn morally ofnadwy, neu’n ddyfodol disglair i’r byd celf arlein? Gav Murphy vs Griff Lynch yn nhudalennau Golwg; Mae Bryn yn couch-2-5-k-io, Sions yn optio allan o consumerism tra’n joio app Newyddion S4C, a Iest yn ecseitio am yr Apple event diweddaraf. Ond chi yma am y lols, so sgipiwch mlaen i weld pam fod Godzilla 1954 yn stynnar o ffilm, a pham bod gan baddie GKOTM falle bwynt, er mor wael di’r movie o 2019. Diolch eto am wrando, welwn ni chi mis nesa!🙏

Apr 24, 20212h 45m

Haclediad 2: Turbo // Tweet Fighter

E

"For You, The Day Yr Haclediad Graced Your Village Was The Most Important Day In Your Life, But For Us? It Was Tuesday.” Mae Ffilm Di Ddim y mis yma yn epic yn y genre Game-to-Movie, peak 1994: yr anhygoel Street Fighter! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned hefyd yn rowndio fyny’r newyddion ar NFTs, Bitcoin a’r bolycs yna i gyd - ond mostly pennod ar Street Fighter ydy hon. This Is Merely Superconductor Electromagnetism! Surely You've Heard Of It? It Levitates Bullet Trains From Tokyo To Osaka. It Levitates My Desk, Where I Ride The Saddle Of The World. And It Levitates...Me!

Mar 31, 20212h 49m

Flappy Engines

E

Dewch i fwynhau * 2+ awr o tech, sgwrs a films gwael gyda Iestyn, Bryn a Sioned - mis yma da ni nôl ar y blockchain yn prynu celf, yn gamifyo ein pelvic floor muscles ac yn canu marwnad i Daft Punk (RIP Robots Trist). #FfilmdiDdim y mis yma ydy Mortal Engines, oedd i fod yn hiwj o franchise starter i dîm cynhyrchu LOTR, ond a drodd allan yn... llanast! Diolch eto am wrando, neu just am roi ni mlaen yn y cefndir tra bo chi'n trio cael bach o atmosffer swyddfa/tafarn wrth eich bwrdd gegin 🙏☺️ *😅

Feb 28, 20212h 50m

Blew a Bara

E

Croeso i 2021, yn llawn gobaith, uncorns ac enfysau... Neu just blwyddyn arall o tech bants, booze a ffilms gwael gyda Bryn, Iestyn a Sioned 😍 Mae'r trio yma i gadw cwmni i chi am awr (neu dair) arall i drafod preifatrwydd WhatsApp, Barddoniaeth Amanda Gorman, skillz bara Bryn a gwasanaeth ffitrwydd Apple. Ffilm di ddim y mis yw'r unigryw THE MEG... ffilm gyda mwy o deifio na'r premier league - ond a fydd o'n well na Sharknado? Gwrandewch i ffindo mas 🦈🌊😅

Jan 31, 20212h 39m

NaDollyg Llawen 2020

E

Ydy, mae popeth yn eitha ofnadwy ar hyn o bryd - ond mae Bryn, Iest a Sioned yma i sgwrsio am 2 awr a chadw cwmni i chi ☺️🍷❤️ Mae na minimal tech a maximal #ffilmdiddim yn y bennod yma - yn anffodus y ffilm yna ydi Dolly Parton's Christmas on the Square, gwrandwch i weld os di'r ffilm actually yn torri Bryn 😅 Diolch i BAWB sy'n gwrando, dros y flwyddyn, y 10 mlynedd dwetha, ac i bawb sydd heb ddileu'r Haclediad o'u Podcatcher 🥰

Dec 23, 20202h 21m

Manic Pixie Dream Hars Box

E

Gweithio o adre? Isie esgus bod ganddo chi ffrindiau yn malu cachu ar y ddesg drws nesa? Dyma’r union beth i chi- Haclediad #92! Yn y bennod yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod yr iPhone newydd sgleiniog sy gan Iest a sut mae gwerthu ffôns wedi cloi bellach yn anghyfreithlon; 4k restorations lliw ffilmiau o ganrif yn ôl, wal magic John King, filmiau Cymraeg ar Amazon a #FfilmDiDdim sy bron mor “WTF?!” â Cats - Winter’s Tale.

Nov 22, 20202h 56m

Rheg Mlynedd yn y Busnes

E

Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o’r Haclediad! Mae Bryn, Iestyn a Sioned am fynd â chi ar daith hiraethus lawr 10 mlynedd o’r RSS feed - gan groniclo’r bŵz, apps, tech a digwyddiadau sydd wedi’n newid ni ar y ffordd. Y #ffilmdiddim o 2010 yw The Last Airbender (ond peidiwch gwylio fo, mae’n ofnadwy). Daliwch i wrando mewn i awr 3 lle mae’r achos waethaf o igian erioed yn taro un o’r tîm… DIOLCH i bob un ohonoch chi sy’n gwrando bob mis - fyddwn ni’n falch o ddod â chi efo ni am 10 mlynedd arall

Oct 25, 20203h 17m

Pope on a Rope

E

Ar bennod diweddaraf eich hoff bodlediad 2awr+ bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod llwyth o gyhoeddiadau Apple newydd, Android 11, Q-Anon yn cyrraedd Caerdydd, algorithmau hiliol a llawer mwy. Hefyd, bydd Bryn yn rhoi update PWYSIG am App Covid-19 tracker yr NHS. Hyn oll ynghyd â'r #ffilmdiddim Angels and Demons - yup, oedd o just mor ofnadwy ac oedden ni'n disgwyl 😬 Diolch o ❤️ am wrando, welwn ni chi tro nesa!

Sep 27, 20202h 38m

Apple, Epic a’r Gwyddonydd Cwerylgar

E

🍹Ar bennod ddiweddaraf yr Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cymryd amser allan o’u bywydau jet-set i ymlacio a chael parti haf. Ry’n ni yma gyda llond pwll padlo o storis “ffycin adorable” am y tech diwedaraf a Ffilm Di Ddim anhygoel arall gan frenin y genre: Gerard Buttwad. Felly - joia dros 2 awr lle does dim rhaid i ti feddwl am ddim byd, yn union fel da ni wrth recordio fo 😅 Dilynwch ni ar @Haclediad a taflwch tip draw ar Ko-fi ayyb 😊

Aug 24, 20202h 20m

Werewolf SuperTed

E

Ar bennod gorlawn ddiweddara’r Award-Winning Haclediad🥈 mae Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod chips Afal, mwy o Huawe-hei, Henry Cavill yn adeiladu PC mewn vest, e-scooters a llwythi mwy. #Ffilmdiddim y mis yma ydy ‘Jupiter Ascending’ - ffilm arall i doddi brên gan Y Wachowskis Cofia ddefnyddio’r chapters i neidio o gwmpas y 2awr+ o pod - neu gwranda arno fo i gyd, bebyns 😆 Diolch i bawb am wrando, welwn ni chi mis nesa 💕

Jul 24, 20202h 35m

Rhagflast o'r Podcast

trailerE

Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn bob mis, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru

Jul 14, 202014 min

Mr Mistoffe-plîs stopia

E

Y tro yma ar y Jellicle podlediad sy’n 2 awr o dy amser gei fi fyth nôl… Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER mwy. Ond yn bwysicach na hynny - #FfilmDiDdim y mis yw'r anghredadwy CATS! (2019) ymunwch â ni am ganu lletchwith a ffwr freaky mewn 2awr+ o bodlediad sy’n neud mwy o sens na’r oll o 2020 yn barod 😹

Jun 19, 20202h 37m

Crims Hems-worth it?

E

Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad - sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma. Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs, app tracio symptomau hollbwysig ond doomed NHSx a llwythi mwy. Ond chi wrth gwrs yma i wrando ar y legendary Afterparty, lle byddwn ni’n gwylio “Blackhat” (dir. Michael Mann,2015) a cholli ein meddyliau - a wedyn trwsio nhw efo hanner awr o gariad dwys i’r Nintendo Switch . Diolch am wrando, cadwch yn saff a welwn ni chi tro nesa!

May 22, 20202h 38m

Da Di Dane DeHaan De?!

E

Croeso i ail bennod manic lockdown energy yr Haclediad – yn dod atoch chi’n fyw o, wel yr union un lle ac o’r blaen - ond gyda gin drytach. Ar y bennod yma (gafodd ei recordio cyn i sgilz Cymraeg Alexa ddod allan) bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod yr iPhone SE massive newydd, apps contact tracing newydd, a llwyddiant De Korea, pam fod pawb angen printers a Nintendo Switches mor sydyn… Ac wrth gwrs, after party epic yn gwylio’r campwaith di-amau “Valerian and the City of a Thousand Planets” 🚀 Diolch o galon ETO ac ETO i chi gyd sy’n gwrando – gobeithio gewch chi cwpl o oriau o ddianc efo mwydro tri amigo sy’n bell o bawb, ond reit fan hyn yn eich clustiau ❤️

Apr 24, 20202h 16m

Codiad Ymyl Heddychlon

E

Ar bennod ddiwedara’r Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yma i ddelio efo’ch holl issues gofid-19 - ac i wneud chi chwerthin a glafoerio (ond ddim am yr un peth). Ni’n agor drysau’r clwb Ffilm Di Ddim gyda Pacific Rim: Uprising, yn canu moliant yr iPad newydd ac yn taflu awgrymiadau aps allan fel dwnim be. Smij o dan 2 awr o hwyl ynghwmni mêts? JUST BE CHI ANGEN! A, byddwch yn ddiolchgar na wnaethon ni alw’r bennod yma yn “Specific Rimming” fel oedden ni isie.

Mar 25, 20201h 57m

Gin & Aptonic

E

Ar bennod ddiweddara'r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru. Mae'r Afterparty yn llawn gorfoledd gwledd o ffilms Ghibli ar Netflix, piciad mewn ar Picard, pwt am Llyfr Glas Nebo LIVE! plus Bryn a'r Birds of Prey - hyn i gyd a mwy ar eich hoff wast o'ch amser prin ar y blaned hon 😊

Feb 28, 20202h 18m

Brynjury Recovery Blwyddyn Newydd

E

Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned - byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn. Hyn oll a llawer llawer mwy ym mhennod cyntaf 2020, diolch am danysgrifio! newydd dda gan griw’r Haclediad!

Jan 16, 20201h 49m

9 mlynedd yn y busnes

E

Ar bennod ddiweddaraf dy hoff bodlediad oedd-yn-arfer-bod-am-tech-ond-sy-rŵan-am-Duw-â-ŵyr-be: Watchdog yn mynd yn gonzo ar Monzo; mwy o ddoethineb Craig Mod, ac mi aeth Iestyn i weld Joker 🤡🤡🤡 Mae'r after party yn llawn awgrymiadau anime a sci-fi i lleddfu nosweithiau tywyll yr hydref, joiwch! Diolch chi gyd sy'n tanysgrifio a gwrando - ac yn benodol i unrhyw un sy'n cyrraedd diwedd pennod 😂

Oct 25, 20191h 51m

Pawb at y Biji-bô!

E

Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr: Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record. Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef / @Iestynx / @Bryns 🙏

Sep 18, 20191h 47m

Ffeindia dy poni mewnol

E

Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman!

Aug 3, 20191h 40m

FaceBucks

E

Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3. Mae'r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic! Diolch am danysgrifio ☺️

Jun 26, 20191h 45m

Huawehei!

E

Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a'r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae'r A-Gin-Da, Game/Gay of Thrones, spoilers Endgame a thollti te yn yr After parti, joiwch!Special Guest: Geraint Howells.

May 28, 20192h 2m

Mae Popeth Yn Ossym!

E

Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan… Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rîli’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o gwbl! 🙌

Apr 9, 20191h 22m

Sneaky Nest a Robo-Iest

E

Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets! Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!) Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd - Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a datblygiadau’r gynhadledd i’r byd digidol Cymraeg. Ymddiheuriadau am safon sain Iestyn, mae o’n troi’n bionic.Special Guest: Carl Morris.

Mar 15, 20191h 34m

Super-Techy-Gwylio Bocsets-Marie-Kondo-trocious

E

Mae criw’r Haclediad yn hitio 2019 yn galed ym mhennod gyntaf 2019 - bydd Bryd, Iestyn a Sioned yn trafod iTunes a telis newydd, bocs sets S4C, diffodd social media a spoiler special afterparty cyfan ar Mary Poppins. Hoffwch, rhannwch a gadwch sylw!

Jan 19, 20191h 25m

Tri Gwirod Doeth

E

Mae'r tân yn craclo, yr hors d'oeuvres allan o'r tupperware a mae Iest yn gwisgo ei hoff ffroc goctail sbarcli - ydi, mae'n amser am barti Nadolig yr Haclediad! Yn y garthen glyweledol yma bydd Iest, Sions a Bryn yn yfed gormod, trafod eu hoff ddarnau o'r flwyddyn AC YN TRIO AROS YN BOSITIF!

Dec 21, 20181h 51m

Ffototal Wipeout

E

Ar bennod mis tywyll Tachwedd - bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley. Yn yr afterparty mae hi’n Llyfr Glas Nebo spoiler-tastic, da ni’n Stanio’r doctor newydd, ynghyd â llwyth o sgwrs ffilms, teli a Gin (wrth gwrs)

Nov 12, 20181h 30m

Toilet BlockChain

E

Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOs12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall y blockchain efo podlediad ZigZag (spoilyrs: dal dim clem). Diolch am wrando – gwaeddwch ar @llef @Bryns neu @Iestynx efo unrhyw adborth!

Oct 1, 20181h 38m

Llyfr Glas Kobo

E

Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd ‘Y Pod’, planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a wifi.

Aug 18, 20181h 7m

Yn Fyw o’r Boudoir

E

Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL (sori am fwy o Facebook, ni’n trio stopio onest) Wedyn, neidiwch mewn i’r afterparty lle mae pethe’n gwella lot. Wir ‘wan. Diolch i bawb am danysgrifio – rêtiwch ni ar iTunes!

Jun 15, 20181h 18m

Google Assiffestant

Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch!

May 13, 20181h 23m

Zuckin’ Hell

E

Y tro yma ar yr Haclediad, ni'n mynd am deep dive mewn i uffern Facebook, Cambridge Analytica, ac mae Bryn yn treulio'r awr a hanner gyntaf yn ysgwyd ei ben a mwmian "be oeddech chi'n disgwyl?" OND arhoswch am yr afterparty am lwyth o hunan ofal, pobi, ac awgrymiadau be i wylio/gwrando arno am y mis nesa.

Apr 16, 20181h 53m

Iâ Iâ Baby

E

Y tro yma ar yr Haclediad rhewllyd, bydd Bryn, Iest a Sions yn gwirioni dros Waze Cymraeg, smart sbecs sy’n edrych yn union fel rhai Bryn ac Elon Musk yn fflingio mwy o bethau i’r gofod. Plis sdiciwch adolygiad yn iTunes os gewch chi 5 munud fyd, ffankiw!

Mar 9, 20181h 55m

Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed

E

Croeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!

Feb 8, 20181h 5m

May The Port Be With You

E

Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018! O.N. Danfonwch yr isod i mewn atom: datblygiad tech gorau i ti ffendio leni hoff app teclyn alli di ddim byw hebddo peth brawychus y flwyddyn peth positif y flwyddyn Cyfres/ffilm gorau Gwobrwyo twat y flwyddyn Gwobrwyo arwres/arwr/arwyr y flwyddyn

Dec 22, 20172h 13m

Drive By Sextoy Hack-lediad

E

Ar yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C - llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma. Welwn ni chi tro nesa am y parti ‘Dolig!

Nov 18, 20171h 58m

iOS gafr eto?

E

Mae criw’r haclediad yn dychwelyd i tech o’r diwedd! Llwyth o stwff sgleiniog Silicon Valley, Zuckerberg yn agor y bocs ac oes pwynt mewn gajets o gwbl? Arhoswch am yr after party am yr Iest Rhest a llwythi mwy!

Oct 7, 20171h 23m

Social Justice Warriars

E

Mae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz. Welwn ni chi mis nesa, diolch am wrando dwds!

Sep 8, 20171h 26m

Buspass Nains

Llwythwch eich podfachwyr gyda'n rhifyn diweddaraf a joiwch yr haf! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod Hansh a Nation.cymru, cops a bychs arlein a pha mor hawdd ydi hi i fynd yn gaeth i scrolls diddiwedd. Hyn i gyd a llwyth o falu awyr, fydd digon i greu awel oer neis ar eich gwyliau. Bonws!

Jul 7, 20171h 15m

Bryn on the Thunder

E

Ym mhennod danbaid 59 bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo Google i/o, yr Echo Show ac SOS yr NHS mewn tameidiau taclus o 10 munud (efo larwm newydd ‘fyd!). Ar ôl y gwychrwydd cwic-fire yna, bydd crwydrsgwrs draddodiadol am unrhyw beth arall sy’n popio mewn i’n pennau, E-readers yn y bath a BrynBlin™. Joiwch, rêtiwch, a gadwch i ni wybod am fwy o tech Cymraeg (o.n. Recordiwyd hwn cyn i EE agor eu canolfan Gofal Cwsmer Cymraeg ym Merthyr, iei!)

May 30, 20171h 10m