
Yr Haclediad
159 episodes — Page 3 of 4

Spring Breykjavik
Y tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd - mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe. Gei di weld os ‘di’n gweithio. Mwy am Siri a Gwlad yr Iâ, newidiadau bywyd o Facebook F8, Fitbit data yn y cwrt a llwythi mwy (yn cynnwys hanner awr arall o rambles i helpu ti gysgu, iei!) Cofia roi seren-neu-bump i ni ar iTunes, ac os ti awydd, beth am roi adolygiad i ni gael gwybod be ti’n meddwl? Ffankiw! O.N. gan Iestyn, sori am ansawdd gwael fy mic, #halfarsedwales an all that. Lot well tro nesaf, gaddo.

Yr Hashnods Perthnasol
Ym mhennod ddiweddaraf yr Haclediad bydd y Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut gall yr hashnods cywir ddileu terfysgaeth, pam mai dal dim ond bŵz siomedig sydd gan Sioned, Brwydr y Barfau a holi faint o turn on yw’r Switch. Ymunwch â nhw am awr o farn heb ymchwil na gwybodaeth, falle fydd o’n hwyl!

Bŵz rhad a Nokias anfarwol
Ym mhennod yma stori epic trawsnewidiad yr Haclediad o raglen tech i raglen gwirod a nostalgia; ry’n ni’n edrych ar y Nokia 3310, sy’ wedi ei atgyfodi, yn galaru am wasanaethau Google sy’n sicr ddim, ac yn chwennychu am Nintendo Switch, iei! Hyn i gyd a llwyth o sgwrsio, rhegfeydd a barn heb wybodaeth, yn amgz…

Episode 55: Nerdageddon yn Hacio'r Iaith 2017
Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw!Special Guests: Carl Morris and Rhodri ap Dyfrig.

Episode 54: Minilediad Hacio'r Iaith 2017
EYn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain - ni’n edrych mlaen i’ch gweld chi yna!

Episode 53: HacDolig 2016
EO’r diwedd, mae 2016 yn dod i ben, a mae’n amser am barti Nadolig yr Haclediad – mae na damed lleia o tech yn y bennod, ond llwyth o bŵz a trio argyhoeddi pawb y bydd popeth yn iawn yn y diwedd. Ciciwch tîn 2016 efo ni, Dolig Llawen!

Episode 52: 52: Oi! Chdi! Teclyn!
Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX. Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych i wrando a gwylio arno, ond dim amser extra i wneud hynny – joiwch! The post Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 51: 51: Parti Haf
Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb gael siawns i wylio, ac wrth gwrs, trafodaeth helaeth ar goctêls y noson. Ymunwch â ni am barti hâf, pam lai? The post Haclediad 51: Parti Haf appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 50: 50: Canol Oed
Croeso i bennod restrospectif (a hyd yn oed mwy random nac arfer) arbennig o’r Haclediad yn dathlu cyhoeddi ein hanner canfed podlediad. Bydd Bryn, Sioned ac Iestyn yn mynd a chi nôl trwy’r archif, ond yn trafod stwff heddiw hefyd fel bwtler Google, Android pay a minimaliaeth. Diolch enfawr i chi gyd am wrando dros yr hanner can rhifyn diwethaf! The post Haclediad 50 – Canol Oed appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 49: 49: Haciaith 2016
Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer gormod o Jelly Babies… The post Haclediad 49: Haciaith 2016 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 48: 48: OMB Haclediad arall syth bin!
Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybodaeth chi a cheir widawiw Tesla. Hyn oll a mwy yn arwain at Hacio’r iaith 2016 yng Nghaerdydd ar Ebrill 16, mwynhewch! The post Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap
Ar Haclediad cynta’r flwyddyn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn busnesa yn sioe tech CES, yn clywed mwy am Bryn ar y radio, snarkio am Snapchat a phendroni am BT Openreach (mwy diddorol nac y mae’n swnio, addo!). Fel pob rhifyn arall byddwn yn pigo’r gorau o straeon tech y mis ac yn hedfan off ar sangiadau gwyllt – mwynhewch! Dolenni Pres Duolingo The post Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 46: 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd
Croeso i Sioe ho-ho-hollol Nadoligaidd yr Haclediad – tro yma byddwn yn taflu’r sgript mas trwy’r ffenest ac yn holi’n daer ar Siôn Corn am anrhegion tech sgleiniog, pethau newydd i’w chwarae â nhw, a heddwch ar ddaear lawr (yn amgz). Felly dowch, tiwniwch mewn a byddwch lawen, mae Bryn, Iestyn a Sions yn dymuno Nadolig Llawen iawn i chi a 2016 eitha gwych, diolch am wrando! Dolenni Xeno Fuji Cameras Withings Activité Sony Soundbase The post Haclediad 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 45: 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo
Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r cyfranwyr. Sboilar: ddim yn enwog o gwbl) Mwynhewch a diolch am wrando! Dolenni Telsa Gwynne (1969 – 2015) Second teenager arrested over TalkTalk data breach Introducing the Linus Yale lock UNICEF, Target team up to sell kids’ fitness bands that help save lives Incubator Duolingo Cymraeg Coffee with a Googler: Chat with Macduff Hughes (100 Days of Google Dev) 10 Things Back to the Future 2 Got Right The post Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 44: 44: Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn
Ydy, mae hi wedi bod yn rhy hir, mae’r Haclediad yma wedi hiatus hafaidd hir. Wedi damwain Bionic Bryn, mae’r criw nôl yn dod â’r diweddaraf o fyd tech i’ch clustiau, gyda’r gymysgedd arferol o fwydro a chabinet diodydd llawn. Tro ’ma bydd popeth o deganau sgleiniog newydd Apple i sinema 3D a cheir clyfar ar y fwydlen – mwynhewch! Dolenni Automatic ar gael (pre-order) ym Mhrydain What explains the rise of humans? The post Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 43: 43: Cwcio ar Gas
Yn yr Haclediad diweddaraf byddwn yn gadael i Google weld ein heneidiau wrth ddefnyddio Google Photos newydd, yn cynhyrfu dros gynhadledd datblygwyr byd-eang Apple (trïwch ddeud hynna efo llond ceg o uwd); yna’n yn myned i fyd y rants llyfrau digidol (eto) wrth ddarganfod nad yw llyfr Cymraeg y flwyddyn ar gael mewn fersiwn digidol. Hyn oll a llawer, llawer mwy (gan gynnwys cynhyrfu am ffwrn ryngweithiol OSSYM) gan eich tîm hacledu lleol, Iestyn, Bryn a Sioned! Dolenni I really don’t want to give all of my photos to Google, but I’m going to do it anyway Google Wants to Count the Calories in Your Instagram Food Shots June Intelligent Oven The post Haclediad 43 — Cwcio ar Gas appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 42: 42: Minilediad Haciaith 2015
Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch! The post Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 41: 41: detox, pa ddetox?
Croeso i Haclediad cyntaf eleni! Mae Ionawr yn amser i iacháu’r meddwl a chorff… neu i gario mlaen yn union fel oeddech chi, hwre! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn eich tywys yn gyfforddus mewn i 2015 wrth drafod cynlluniau brawychus y llywodraeth i fynnu gallu dad-gryptio pob neges anfonwn ni o hyn mlaen (iaics), sut beth yw Windows 10 i’w ddefnyddio a thameidiau blasus digidol eraill. O, a sut i ddeffro’r Kraken, yn naturiol. Dolenni David Cameron’s internet surveillance plans rival Syria, Russia and Iran Microsoft Windows 10 Event in 8 minutes The post Haclediad 41 — detox, pa ddetox? appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 40: 40: Bywyd yn dechrau yn Ddeugain!
Ydan, ry’n ni wedi cyrraedd 40 rhifyn o’r Haclediad — diolch am sticio efo ni! Yn y bennod hyd-yn-oed-llai-ffurfiol nac arfer bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dathlu pedair blynedd o’u hoff dechnoleg, DDIM yn trafod ‘bendgate’ yr iPhone 6 a thrio deall os yw Windows wedi anghofio sut i gyfri wrth fynd yn syth o Windows 8 i Windows 10. Diolch am wrando am y 40 rhifyn diwethaf giang, allwn ni’m gwneud o heboch chi! Dolenni Crash Formula E Windows 10 – lle aeth 9? Samsung Galaxy Y The post Haclediad #40 — Bywyd yn dechrau yn Ddeugain! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 39: 39: Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest
Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am NATO, llongau rhyfel ym Mae Caerdydd na Hofrenyddion Tony Stark-aidd yn y rhifyn yma, ffiw! Doleni Treth ar Google i ariannu darlledu yn y Gymraeg? Meet the new, reversible USB Cacen Sali Mali Nest The post Haclediad #39 – Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 38: 38: tripiau haf a chips poeth
Y tro ‘ma ar eich hoff bodlediad crasboeth tech Cymraeg: Bryn yn esbonio jyst pam fod DRIP am fusnesa ar eich holl fanylion personol, mwy ar ffonau Microsoft yn colli 18,000 o weithwyr (ac un cwsmer o’r enw Sioned), a chipolwg ar y ‘Tripadvisor’ Cymraeg “Ar y Ffordd”. Hyn oll a llawer mwy i’ch clustiau ar draethau/yng ngerddi/mewn cocktail bars ledled Cymru, joiwch! Doleni Microsoft to slash 18,000 jobs in deepest cuts in tech giant’s history A stopio creu ffonau android DRIP Argraffwyr 3D Gwasanaeth newydd Ar y Ffordd – y tripadvisor Cymraeg? Blogger fined for restaurant review – Ffrainc The post Haclediad #38: tripiau haf a chips poeth appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 37: 37: Google… anghofia hi.
Tro yma ar yr haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn rhoi Nest Iest ar Test (iep, thermostat clyfar, w, cyffro!), gofyn i Google ein hanghofio ni, ac yn ail-fyw dyddiau euraidd gemau Nintendo trwy gemau newydd y Wii U o gynhadledd E3 yn Vegas. Ac wrth gwrs, bydd digon o jôcs gwael a thrafod tech i chi joio ar y traeth/tra’n llosgi selsig yn yr ardd (sa thermostat yn helpu falle). Dolenni Iaith rhaglennu newydd Apple – Swift Anghofiwch fi Google Nest Tweet to boost – Formula E E3 Nintendo Direct E3 2014 in under 5 minutes Fideo8 The Thrilling Adventure Hour! How did this get made The Flop House The post Haclediad #37: Google… anghofia hi. appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 36: 36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad
Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu Occulus Rift (ar ôl i hwnnw godi ffortiwn trwy ariannu torfol, wps), a’r Iest Test tro yma yw’r system rheoli cartref Nest, jyst achos ei fod yn odli. Mwynhewch O.N. — Mi recordwyd hwn wythnosau yn ôl, a nid yw Gafyn wedi bod yn agos ato, felly ymddiheuriadau am yr ansawdd a’r amser gymerwyd i’w ddarlledu. The post Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 35: 35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014
Rhifyn byw o ddigwyddiad Hacio’r Iaith ym Mangor – gyda cyfweliadau am Cymru Byw (gwasanaeth newydd blogio byw y BBC) ac am holl stwff newydd data’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o sgwrsio am fore’r digwyddiad hefyd, mwynhewch! *Dolenni i ddod… The post Haclediad #35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 34: 34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014
Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno! Dolenni S4C ar Youview WebOS ar LG Satya Nadella Haciaith 2014 Dolby Vision CES Sen.se Mother Hysbyseb Hive The post Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 33: 33: Ho-ho-haclediad
Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad! Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio cadw’r rhestr ‘Dolig lawr o dan £10,000 am unwaith. Hyn oll a mwy yn eich rhifyn Nadoligaidd sgleiniog o’r Ho-ho-haclediad! Nwdlscyf Enaid Coll – gêm Gymraeg ar Steam The post Haclediad #33: Ho-ho-haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 32: 32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal
Yn Haclediad 32 bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn trafod gwerthu cwmni Blackberry am llai na mae Apple yn neud mewn blwyddyn, update diweddaraf iFfôn a Bryn yn ymuno â byd Android. Wrth gwrs bydd hefyd y cyfuniad gorau o sgwrs a nonsans i’ch clustiau – mwynhewch! The post Haclediad #32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 31: 31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru
Wedi rhifyn byw’r eisteddfod, mae’r criw nôl yng Nghaerdydd, Llundain a Chaernarfon am rifyn diweddara’r haclediad! Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod 4G yn cyrraedd, mwy o esiamplau o brosiectau a gwefannau Half Arsed Cymru, a bydd Bryn Blin yn ailymuno efo’r criw yn achlysurol – ond rhaid gwrando i weld pam! 4G Buers Guide – The Verge Gwladigidol The post Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 30: 30: Yn Fyw o’r M@es
Helo a chroeso i rhifyn arbenig o’r Haclediad yn fyw o faes yr Eisteddfod. Yn anffodus roedd Sioned methu bod efo ni, ond yn lwcus doedd dim alcohol, felly cadwodd Bryn a fina eithaf call. Rydym yn sgwrsio efo Kim Jones o Technocamps sydd yn helpu dysgu plant am gyfrifiaduron, robots a pob fathau o prosiectau Raspberry Pi. Wedyn mae na sgwrs arall am sefyllfa elyfrau yng Nghymru ar ôl lawnsiad app siop newydd gan y Cyngor Llyfrau. Ydy nhw’n mynd y ffordd iawn? A oes goleuni ar ddiwadd y DRM? Cawn weld. Robin o Wicimedia Cymru sydd yn trafod y gwaith arbennig maent yn ei wneud i drio rhyddhau gwybodaeth a lluniau allan i’r cyhoedd. Mae’n ddrwg genym am ansawdd y sain, doedd Gafyn ddim ar gael i rhoid y polish arno. Diolch yn fawr i Carl am trefnu popeth. The post Haclediad #30: Yn Fyw o’r M@es appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guests: Carl Morris, Kim Jones, Phil Stead, and Robin Llwyd ab Owain.

Episode 29: 29: Yr Un Preifat
Y tro yma ar yr Haclediad, yn ogystal â thrafod pa cocktail yn union mae Iestyn wedi paratoi, a pha ‘vintage’ o chwisgi sy’ gan Bryn; byddwn ni’n edrych ar sefyllfa band eang Cymru, cymryd cipolwg ar wythnos ddigidol Caerdydd a holi beth yn union mae chwibanu Edward Snowden yn golygu i ni. Mae hefyd llawer, llawer mwy i’ch clustiau chi fwynhau ar y traeth/Costa del Ardd Gefn yn Haclediad 29! The post Haclediad #29: Yr Un Preifat appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 28: 28: Cynhadledd-I/O
Henffych! Dyma i chi rifyn cynta’r “hâf” o’r Haclediad. Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn sôn am gynhadleddau di-ri: cynhadledd Creadigidol S4C oedd yn ceisio cael gafael ar ddyfodol digidol ein sianel genedlaethol ac yna cynhadledd Google I/O, gyda yna lwyth o bethau newydd i’w gweld gan y cewri chwilota a hysbysebu, wel, heblaw am eu cofnodion treth hynny ydi. Fe gyfarfu Bryn â’i arwr, y Nerdist a fuon ni’n trio gwasanaethau cerddoriaeth diweddaraf Twitter. Hyn oll a llawer mwy(dro) i chi fwynhau yn eich clustiau ar draethau a dolydd ein gwlad! Dolenni Nerdist Creadigidol Google I/O Twitter #Music The post Haclediad #28: Cynhadledd-I/O appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 27: 27: ‘Home’
Ar Haclediad y tro hwn, byddwn yn trafod dyfodiad y ffôn Facebook cyntaf – caru neu gasáu gwefan Mr Zuckerberg, mae hi rŵan ar gael ar ffôn Android ei hun. Hefyd, byddwn ni’n cymryd golwg ar arian arlein Bitcoins, a’r codi a chwymp yn ei gwerth ar farchnad stoc rithwir y we. Hyn oll a llawer mwy o fwydro am deithiau tramor Bryn, yn eich rhifyn diweddaraf o’r Haclediad! Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR eto i Gafyn Lloyd am gymysgu, sortio a pholsio’r Haclediad eto mis yma! The post Haclediad #27: ‘Home’ appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 26: 26: Yr un byw na fu21: Hei Mistar Urdd!
Ar yr Haclediad diweddaraf i gnesu‘ch cocyls bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod digwyddiad Hacio’r Iaith ’13 gyda’u gwestai arbennig Gareth Morlais. Bydd y criw hefyd yn cymryd cipolwg ar wasanaeth fideo byr newydd Twitter, Vine, ac yn troi cadw’n heini yn gêm gyda profiadau Bryn efo’i Nike Fuel band. Hyn oll, a mwy ar Haclediad #26! Dolenni Gareth Morlais twtlol.co.uk Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg Ifan Dafydd – Celwydd (feat. Alys Williams) Anger over Twitter porn gaffe on Vine video service Branch Haciaith Nike Fuelband Invasion of the body trackers: take me to your leader Pebble smartwatch video review The post Haclediad #26: Yr un byw na fu appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guest: Gareth Morlais.

Episode 25: 25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012
Yn ôl yng nghôl yr Haclediad y tro hwn mae Sioned, a bydd Bryn ac Iestyn yn ei chroesawu nôl efo cipolwg ar Windows 8 – y dyfodol neu ddymchwel i Microsoft? Hefyd byddwn yn sbïo dros aps newydd geiriadur a bysellfwrdd Cymreig ffab i’ch ffonau a rhestr Nadolig yr Hacledwyr, be da ni am weld yn yr hosan yna ddiwedd mis Rhagfyr? Byddwn hyn edrych mlaen yn ogystal i ddigwyddiad y flwyddyn – Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, byddwch yn barod gyda’ch pasbortau i ddod lan/lawr i Aberystwyth! Dolenni Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron Drunk Jennifer using Microsoft Windows 8 Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle Rhestr Siopa Nadolig Yr Haclediad Sioned Mam – Nook a’r gallu i gael llyfrau Cymraeg arno Dad – Kindle Fire HD i ddarllen/gwylio stwff ar wenyna (a chware tetris ac ebay!) Brawd / Chwaer – Wii U i @OsianLlew, d’io methu aros Rhywun Arbennig – Xbox 360 (“an oldie but a goodie”) Dy hyn – Macbook Air (dim ‘mynedd efo tabledi ar hun o bryd!) Bryn Mam – Dim! Dad – Dim! Brawd / Chwaer – Dim! Rhywun Arbennig – Dim! Dy hyn – Canon 5D MkIII Iestyn Mam – iPad mini / Kobo Glo (os mond i ddarllen) Dad – Blackmagic Cinema Camera Brawd / Chwaer – Nocs Headphones Rhywun Arbennig – Gwyliau mewn gwlad poeth lle does na ddim technoleg Dy hyn – Nike Fuelband neu Jawbone Up? Nadolig Llawen! The post Haclediad #25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 24: 24: Yr un efo Elliw!
Mae’n ddrwg gennym am y tawelwch sydd wedi bod, ond mae rhai ohonom wedi bod i ffwrdd yn gwneud pethau pwysicach. Felly dyma ei’n Haclediad cyntaf heb Sioned. Roedd yn ormod o risg gadael Bryn a fi ar ben eu hunain i fwydro, felly rhowch croeso mawr cynnes i Elliw Gwawr — sy’n trio ei gorau i gadw trefn. Gadewch i’r rhefru ddechrau… O.N. Mi gafwyd hwn ei recordio pythefnos yn ôl, oherwydd materion y meddwl dim ond rŵan mae’n cael ei gyhoeddi. Ymddiheuriadau. The post Haclediad #24: Yr un efo Elliw! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guest: Elliw Gwawr.

Episode 23: 23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012
Rhifyn arbennig o’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr. Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gael yn yr Haclediad hefyd, felly s’dim angen i chi boeni! Mwynhewch bodlediad gorau’r hâf[1] ar eich peiriant NAWR O.N. Mae’n ddrwg gennym am ansawdd y sain (Gafyn wedi trio ei orau efo be recordiwyd), ond pe bai rhywun yn awyddus i gyfrannu ychydig o feicroffonau i’r achos… Dolenni Ap Yr Eisteddfod 4G erbyn eisteddfod 2013 Stiwdio gwellt ar y Maes Gwyrdd Nid yw pob un o’r datganiadau hyn yn ffeithiol gywir  ↩ The post Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 22: 22: Yr un 7 modfedd
Yn Haclediad 22 (yr un olaf cyn Hacio’r Iaith yn yr eisteddfod), byddwn ni’n busnesa ar ddatblygiadau tech Google yn eu cynhadledd I/O, pwt ar S4C yn rhoi’r gorau iddi ar clirlun, tabled newydd sgleiniog y Microsoft surface – ac wrth gwrs edrych mlaen i’r Haclediad byw yng ngŵyl dechnoleg yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg. Diolch am wrando, a falle welwn ni chi yn y brifwyl! Dolenni Google I|O Y Rhyfel yn Parhau Sergey’s Spectacular Google Glass Skydive: Watch It All Google Nexus Asus Nexus 7 Review Google Play store movies, shows, and magazines not coming to UK with Nexus 7 The Google Nexus Q Is Baffling Microsoft Surface Hands on: Microsoft Surface tablet review Microsoft Surface S4C Clirlun Mesurau effeithlonrwydd S4C ar y ffordd i gyrraedd y nod Pryder am gyfryngau Cymraeg Joli OS Joli OS Jolicloud Haciaith Steddfod 2012 Haciaith yno bob dydd The post Haclediad #22: Yr un 7 modfedd appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 21: 21: Hei Mistar Urdd!
Mae’r haclediad yn troi’n 21 y mis yma, ond does dim arlliw o dyfu fyny yn perthyn i’r rhaglen, diolch byth! Tro hwn byddwn ni’n trafod Gmail Cymraeg yn cyrraedd wedi siwrne hir, cipio rhagolwg ar Windows 8, aps eisteddfod yr Urdd a rhwystredigaethau di-ri diweddaru Android. Hyn oll a llwyth o fwydro penigamp gydag Iestyn, Bryn a Sioned i’ch diddanu dros y penwythnos hir yma. Joiwch! Dolenni Ap Urdd Urdd 2012 app Windows 8 Release Preview Windows 8 Release Preview now available to download Gmail yn y Gymraeg! Android Fragmentation Growing Worse With ICS Android 4.0 Ice Cream Sandwich: When is it coming to my phone? @PurpleMooseBrew The post Haclediad #21: Hei Mistar Urdd! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 20: 20: Yr un am y Ffôns a'r Porn
Amser maith yn ôl, mewn bydysawd pell i ffwrdd (well, Dydd Gwener ddiwethaf), ddaru ni (Sioned, Iestyn a Bryn) ymgasglu i drafod y digwyddiadau yn y byd technegol… dan drafodaeth oedd Ffôn newydd Samsung, sydd ddim mor hot ‘na ny. Cynlluniau’r llywodraeth i flocio porn sa bod ni’n gofyn amdano a thomen o podlediadau a fodlediadau newydd sydd wedi cael ei lansio yn y misoedd diwethaf. Diolch i Gafyn Lloyd unwaith eto, a recordiwyd ar Mai 4ydd 2012. Dolenni SNOOPIO Llywodraeth Cymhariaeth Ffonau How Samsung broke my heart Y Digwyddiad Samsung Samsung ES8000 – Which? in-depth look Pornography online: David Cameron to consider ‘opt in’ plan ‘Gimp’ Google Image Search ‘Boobs’ Google Image Search (NSFW!) Ffilms Woo! 1 TrydArwyr #0 – TrydArwyr Ymgasglwch! The post Haclediad #20: Yr un am y Ffôns a'r Porn appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!)
Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned (@llef) Bryn (@bryns) ac Iestyn (@iestynx) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori sut yn union ddigwyddodd hynny. Cynlluniau ysbïo’r llywodraeth, a pha mor breifat bydd ein cysylltiadau ar-lein sy’ angen ? Bydd hyd yn oed MWY am e-lyfrau (ar gael o’ch llyfrgell leol nawr), saga barhaol y Windows Phone, a llwythi o fwydro amrywiol a difir technolegau arall, addo! Diolch am lawrlwytho’r rhifyn yma, ymlaen at yr 20! Dolenni SNOOPIO Llywodraeth Ble Mae’r Gymraeg eLyfrau yn y Llyfrgell The post Haclediad #19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 18: “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mai Hacledio”
Helo wrandawyr! Ar yr Haclediad mis yma – bydd Bryn, Iestyn a SIoned yn trafod sut aeth Hacio’r Iaith 2012 (ardderchog, wrth gwrs), dyfodiad Sianel 62 i’ch dyfeisiau bob nos Sul (darlledir y chwyldro arlein?), deddfwriaeth ACTA (yda ni am gael ein cicio oddiar y we, eto?) dim .cymru a sibrydion iPad 3, ffiw! Yng nghanol hyn i gyd bydd mwydro, dadlau a gwylio fideos doniol am Samsung (wele yma, ac yma os da chi am wylio ar y cyd adre ‘de!) Diolch i Gafyn Lloyd am olygu’r cyfan a diolch i chi am lawrlwytho! Dolenni Fideo’s Hacio’r iaith Sianel 62 Debunking the European Commission’s ’10 myths about ACTA’ Acta: EU court to rule on anti-piracy agreement Confirmed: iPad 3 Has a 2048×1536 Retina Display Samsung Galaxy Note Super Bowl Ad Commercial HD 2012 – Thing Called Love Literal Samsung Tablet Commercial Parody No block on move for .wales and cymru domain names Cayman Islands The post Haclediad #18: “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mai Hacledio” appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 17: Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012
Dyma recordiad byw Haclediad #17, o flaen cynulleidfa eiddgar yn Hacio’r Iaith 2012. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo SOPA bill yr Unol Daleithiau, Twitter yn sensro cynnwys am y tro cyntaf, blogiau Cymraeg, cwestiynau’r gynulleidfa, memes arlein ac yna’n darganfod un o raglenni coll Sci-Fi Cymru yn y broses! I ddilyn Hashtags y sgwrs a gweld y cwestiynau ddaeth mewn ewch i Storify Bryn A dyma hi fideo’r Haclediad (os da chi am weld ein wepiau ni). Recordiwyd ar 28ain o Ionawr. The post Haclediad #17 – Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 16: Yr Un Sâl!
Croeso i Haclediad #16: Yr Un Sâl! Ar ddechrau 2012 byddwn ni yn trio ymladd y ffliw ac yn dod â thameidiau blasus y flwyddyn a fu a’r flwyddyn i ddod i’ch clustiau! Byddwn yn trafod y tech gorau o 2011, ac yn darogan pa ddyfeisiau neu gwmnïau bydd yn ffarwelio â ni yn 2012. Byddwn hefyd yn dechrau ar ymgyrch gwrth-#halfarsedWales yn y gobaith o weld dylunio gwych o Gymru. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych mlaen yn arw am Hacio’r Iaith 2012 ar y 27ain a’r 28ain o Ionawr, welwn ni chi yno! Dolenni The Guardian ar yr iPad SnapSeed App TuneIn Radio App Ap Golwg Yudu – Y technoleg y tu ôl i Ap Golwg Adobe Digital Publishing Suite RIM mewn trwbl Nintendo mewn trwbl? How to bring good design to a platform The post Haclediad #16 Yr Un Sâl! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C
bonusAnrheg Nadolig cynnar i chi Hacledffans, dyma ein hasesiad ni o adroddiad Panel Digidol S4C – Cofleidio’r Dyfodol. Mae Rhodri ap Dyfrig (@nwdls), aelod o’r panel yn mynd a ni trwy’r adroddiad, a be mae’n meddwl i ni ddefnyddwyr gwasanaethau S4C. Bydd Iestyn yn rhoi’r adroddiad i’r Iest Test, gwrandewch i glywed y ddyfarniad. Nadolig Llawen iawn hefyd i chi gyd sy’n gwrando, a diolch mahwsif i chi am wneud. Ymlaen i Hacio’r Iaith 2012! The post Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guest: Rhodri ap Dyfrig.

Episode 15: Yr un Gaeafol
Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a 28 Ionawr, dewch yn llu!). Gobeithio gwnewch chi fwynhau, ac os na, dangoswch eich rhesymu yma! Dolenni Swyddi cynnwys Digidol yn S4C Adroddiad “Cofleidio’r Dyfodol” Raspberry Pi Spotify – API newydd wp di dw? Path Hacio’r Iaith 2012! The post Haclediad #15 – Yr un Gaeafol appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 14: Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)
Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn unig fydd hi peidiwch poeni! Mae’r Nokia Lumia 800 yn ein temtio, ynghyd â’r newyddion gwych am brosiect Radio’r Cymry a’n plyg traddodiadol i Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, joiwch! Dolenni Nokia Lumia 800 Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif? Coelcerth Kindles E-lyfrau 2011, recordiadau 2004 Radio’r Cymry The post Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.Special Guest: Garmon Gruffydd.

Episode 13: Tân ac Afalau
Gyda Apple yn dod a’r iPhone 4S i’r byd ac Amazon yn cynnau’r Kindle Fire, mae’n frwydr y ffanbois yn rhifyn hwn yr Haclediad. Yn symud ‘mlaen o’r Kindle Fire, byddwn yn trafod sefyllfa siomedig e-lyfrau Cymru, awgrymiadau fforwm cyfryngau newydd S4C a’r newyddion gwych am Hacio’r Iaith 2012. Anghofion ni sôn am Facebook newydd, ond s’neb yn poeni am hynna, ‘ni gyd yn trio gadael beth bynnag! Dolenni Siri iPhone 4S Introducing Voice Actions for Android Kindle Fire eLyfrau y Lolfa S4C fforwm cyfryngaun newydd Hacio’r Iaith 2012 The post Haclediad #13 – Tân ac Afalau appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 12: Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)
Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac ymadawiad HP o’r farchnad cyfrifiaduron cartref. Be’ mae hyn i gyd yn meddwl i ni fel defnyddwyr, ydan ni wirioneddol mewn byd ‘post-pc’? Da ni’n sicr mewn byd post-papur serch hynny, ond ydi Cymru yn syrthio ymhellach tu ôl iddi, gyda phroblemau Y Lolfa yn cyhoeddi e-lyfrau, a’r prinder o aps i Blant Cymru? Gewch chi glywed y cyfan efo ni yma ar Haclediad #12! Mwynhewch! Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx) The post Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 11: Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl
Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a gweledigaeth y buddsoddwr Roger McNamee ar sut bydd yr haenen gymdeithasol ac HTML5 yn newid sut ‘da ni’n defnyddio’r we am byth. I chi sy’n mynd i’r Eisteddfod, bydd Hacio’r Iaith Bach yno ar y maes, ewch draw i babell Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun i gwrdd â Rhodri @Nwdls Ap Dyfrig a’r criw. Mwynhewch! Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx) The post Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 10: Yr un niwlog
Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple. Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr Wii U, Duke Nukem Forever ac apps gemau rhad ac am ddim i blant gan S4C. Ym myd ffôns bydd mwy o newyddion am yr Nokia N9, a’r Nokia “Sea Ray” y protoeip Windows Phone 7 ‘cudd’ mae Nokia wedi ei ddangos yn yr wythnosau diwethaf (mae’r fideo wedi diflannu yn anffodus). Byddwn yn trafod yr iCloud (neu’r tamed ohono, yr iNiwl os hoffech chi, sydd allan yno), a chynlluniau sensro’r we, a ddylen ni fod yn ofnus? Diolch eto am wrando ar Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Sioned (@llef) am 10 hacleciad, welwn ni chi yn yr Eisteddfod! The post Haclediad #10 – Yr un niwlog appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.