PLAY PODCASTS
Clera

Clera

117 episodes — Page 3 of 3

Clera Chwefror 2018

Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am beth yw gwerth cerdd, yn sgil colofn ar y pwnc yn Barddas gan y prifardd Ceri Wyn Jones. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Gwyneth Lewis ac rydym hefyd yn adrodd hanes sioe farddol newydd Karen Owen, sef 7 Llais, heb son am lwyth o'r pethau difyr eraill sy'n arferol ar Clera. Diolch yn fawr i'r Prifardd Tudur Dylan Jones am gael defnyddio ei lun o Karen Owen ar glawr y bennod hon.

Feb 17, 201857 min

Ionawr 2018

Croeso i bennod gynta'r flwyddyn o Clera o gynhesrwydd Tafarn Ffostrasol. Rydyn ni'n dechrau 2018 gydag armywiaeth o bethau barddol, difyr a geeky! Pwnco am y gynghanedd a sut i ateb aceniad estron rhai geiriau, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog, Cerdd Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs am ffurf yr Anterliwt a llawer mwy o'r eitemau arferol.

Jan 18, 201846 min

Clera Rhagfyr 2017

Mwynhewch bennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera. Y mis yma rydyn ni'n Pwnco gyda Llŷr Gwyn Lewis am ei awdl a ddaeth mor agos i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn. Ceir cerdd Orffwysfa nadoligaidd gan Anwen Pierce, y pos gan Gruffudd a'i ymennydd miniog a llawer mwy.

Dec 17, 201753 min

Clera Tachwedd 2017

Pennod lawn dop arall, o Lyfr y Flwyddyn, i daith Cywion Cranogwen, hanes teithjiau Aneurig i India a Llydaw, Cerdd newydd sbon yr Orffwysfa gan y Prifardd Emyr Lewis, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!

Nov 24, 201759 min

Clera Hydref 17

Pennod a recordiwyd yn fyw o Wyl y Cynhaeaf, Aberteifi. Pwnco gyda'r Prifardd Ddoctor Hywel Griffiths ar gysylltiad Afon Teifi gyda Barddoniaeth Gymraeg. Cerdd Orffwysfa gydag Elinor Wyn Reynolds a sgwrs gyda'r bardd Philippa Gibson. Gemau a Giamocs, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog a mwy!

Oct 1, 201753 min

Clera Medi 2017

Yn y bennod hon ceir sgwrs gyda Phrifardd Cadair Ynys Môn, Osian Rhys Jones, cerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, adolygiad o sioe farddol Ifor ap Glyn,'Y Gadair Wag', Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r Newyddion Heddiw.

Sep 17, 201746 min

Clera Awst o'r Babell Lên

Pennod arbennig wedi ei recordio yn fyw o'r Babell Lên gyda gwesteion arbennig, sy'n cynnwys ambell brifardd, a chyn feirdd plant a beirdd dawnus eraill. O'r llinell gynganeddol ddmaweiniol o'r maes i'r Gemau a giamocs, mae digon i'ch difyrru o faes y brifwyl yng Ngwlad y Medra.

Aug 16, 201745 min

Clera Gorffennaf yn fyw o Sesiwn Fawr Dolgellau

Pennod wedi ei recordio'n fyw yn Nhy Siamas, Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Sesiwn Fawr 2017. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad. Ein gwesteion arbennig yw'r gantores Lowri Evans a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

Jul 25, 201743 min

Clera Mehefin

Pennod mis Mehefin, gyda sawl eitem o Wyl Gerallt a gynhaliwyd ddiwedd Mai yn Aberystwyth. Cerdd o gyfrol newydd Annes Glyn sydd yn yr orffwysfa y tro hwn, ynghyd a phos newydd wrth Gruffydd Antur, trafodaeth bwnco ar ddarllen cyfrolau barddoniaeth a nifer o eitemau eraill i'ch diddanu, gobeithio!

Jun 26, 201747 min

Clera Mai 2017

Ymhlith y danteithion i'ch difyrru ym mhennod mis Mai o Clera, mae sgwrs bwnco arbennig gyda'r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn a phennaeth Ty Newydd, Llanystumdwy, Leusa Llewelyn. Hefyd, cerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths o'i gyfrol newydd o gerddi, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!

May 15, 20171h 2m

Clera Ebrill 2017

Y podlediad barddol misol llawn o farddoni, cloncan a difyrrwch. Y Mis hwn mae gyda ni drafodaeth Pwnco ar yr Awdl gyda chyfraniad i'r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs gyda'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, Cerdd yn yr orffwysfa gan Iestyn Tyne, pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, hanes gornest gyntaf tim newydd sbon o feirdd ar y talwrn, llwyth o newyddion a mwy!

Apr 9, 20171h 12m

Clera Mawrth 2017

Pennod Mis Mawrth 2017 o Clera. Pennod lawn dop y tro hwn, gyda sgwrs Pwnco yn dod o Dy Newydd, Llanystumdwy, Cerdd gan Nofelydd o fri, eitem newydd sbon, sgwrs gyda Golygyddion Y Stamp, adroddiad ar frwydr Slam Farddol fawr, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!

Mar 13, 20171h 10m

Clera Chwefror 2017

Pennod y Mis Bach, 2017, o Clera. Digon o geekrwydd cynganeddol yn y bennod hon, gyda'r gwestai arbennig, Iwan Rhys, hefyd cerdd newydd gan Fardd Plant Cymru, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy.

Feb 12, 201757 min

Clera Ionawr 2017

Clera Ionawr 2017 by Clera

Jan 15, 20171h 3m

Clera Mis Rhagfyr

Pennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera yng nghwmni Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.

Dec 16, 201652 min

Clera Tachwedd 2016

1. Pwnco: sgwrs ag Elinor Wyn Reynolds a Gwennan Evans am ferched yn y sîn farddol 2. 29:10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Marged Tudur 3. 31:19 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 4. 38:03 Pryd o Dafod: yr acen 5. 41.58 Sgwrs â Dwynwen, cynhyrchydd Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru 6. 47.13 Newyddion

Nov 19, 201651 min

Clera Hydref 2016

Pennod gyntaf Podlediad misol newydd sy'n trafod barddoni. Y mis hwn mae Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yn holi pam nad oes cymaint o feirdd yn cystadlu yng nghystadleuaerthau Barddoniaeth yr Eisteddfod bellach, cewch glywed cerdd newydd sbon gan Osian Rhys Jones a hanes Gwyl y Cynhaeaf, Aberteifi, ymysg pethau eraill.

Oct 26, 201648 min