Show overview
Clera has been publishing since 2016, and across the 10 years since has built a catalogue of 117 episodes. That works out to roughly 150 hours of audio in total. Releases follow a monthly cadence.
Episodes typically run an hour to ninety minutes — most land between 1h 1m and 1h 27m — though episode length varies meaningfully from one episode to the next. None of the episodes are flagged explicit by the publisher. It is catalogued as a EN-language Arts show.
The show is actively publishing — the most recent episode landed 2 weeks ago, with 5 episodes already out so far this year.
From the publisher
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Latest Episodes
View all 117 episodesClera Mai 2026
Clera Ebrill 2026

Clera Mawrth 2026
Croeso i bennod mis Mawrth, 2026 o bidlediad Clera. Y tro hwn cawn gwmni dau Fardd Plant, sef cyn-fardd Blant Cymru, Nia Morais, sy'n darllen cerdd o'i chyfrol gyntaf o gerddi 'Yn y Freuddwyd' a chawn hefyd sgwrs gyda'r bardd plant cyfredol, Siôn Tomos Owen. Mae Gruffudd Antur hefyd yn pwnco gyda ni am fardd sy'n haeddu mwy o sylw, Gutun Owain, ac fe gewn hefyd drafod llinell gynganeddol y mis, ymysg pethau eraill.

Clera Chwefror 2026
Clera Chwefror 2026 by Clera

Clera Ionawr 2026
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Croeso i bennod blygeiniol o bodlediad Clera. Y mis hwn cawn sgwrs ddifyr gydag Arfon Gwilym, beirniadaeth finiog arall gan Gruffudd Antur yn Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y mis a cherdd Ddwynwenaidd hyfryd gan Fardd Tref Aberystwyth, y Prifardd Hywel Griffiths. Mwynhewch!

Clera Rhagfyr 2025
Clera Rhagfyr 2025 by Clera

Clera Tachwedd 2025
Croeso i bennod y mis du o bodlediad Clera. Mae tachwedd wedi oeri yn sydyn, felly dyma'r cydymaith perffaith i chi wrth gadw'n dwym ac yn glyd neu wrth fynd mas am dro a theimlo'r oerfel ar eich wyneb a gwres yn eich clustiau! Cawn ddwy sgwrs ddifyr a swmpus yng nghwmni Prifardd Coron Eisteddfod genedlaqethol Wrecsam, Owain Rhys. A hefyd cawn gwmni'r prifardd a'r cyn-Archerwydd Jim Parc Nest. Gan taw dyma'r bennod hiraf erioed o Clera, mae nodiadau amseru isod. Hyn, hanes Gŵyl Gerallt a llawer mwy! Cyflwyniad 28:59 - Y Delicasi gan Dylan (Y Prifardd Tudur Dylan) 31:46 - Pwnco Holi'r Prifardd Owain Rhys 1:05:38 - Cerdd yr Orffwysfa / Yr Orffwysgerdd - Y Prifardd Idris Reynolds 1:11:46 - Sgwrs gyda'r Cyn-Archdderwydd a'r prifardd Jim parc Nest 1:49:22 - Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis gyda Gruffudd Antur 2:10:25 - Y Newyddion Heddiw

Clera Hydref 2025
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Yn y rhifyn hwn byddwn ni'n dathlu bywyd a gwaith Dic yr Hendre wrth inni fynd ar daith o gwmpas cynefin y Prifardd ac Archdderwydd o Flaenannerch. Cawn hefyd orffwysgerdd gan Tomos Rees a Diweddgan gan Sioned Erin Hughes o'i chyfrol newydd.

Clera Medi 2025
Croeso i bennod mis Medi, 2025 o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn sgwrs gydag enillydd Cadair Wrecsam, y Prifardd Tudur Hallam, cerdd gan y Prifardd Carwyn Eckley o'i gyfrol newydd, 'Trochi (Gwasg Carreg Gwalch) yn ogystal â'r Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy.

Clera Awst 2025
Croeso i bennod arbennig o Clera wrth inni edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Y tro hwn, rydyn ni'n pwnco am draddodiad 'y cyff clêr' gyda'r Prif Lenor Eurig Salisbury yn y gornel las ac Yr Islwyn yn Ymryson y Beirdd, Gruffudd Antur yn ei wynebu yn y gornel goch!

Clera Gorffennaf 2025
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o ganu ffug-farwnadau. Cawn hefyd gerdd newydd sbon gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o'i chyfrol newydd, 'Mae' (Cyhoeddiadau Barddas) ac fe fyddwn ni hefyd yn holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd yntau, 'Holl Lawenydd Gwyllt' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a llawer mwy o'r perlau a'r dwli arferol! Diolch i Llŷr Gwyn am y llun sydd ar y clawr.

Clera Mehefin 2025
Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad Barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod orlawn hon, mae gennym eitem arbennig ar eich cyfer, wedi ei recordio yn ddiweddar gan Meirion Jones o Bentre-cwrt, pentre genediol T Llew Jones lle bu taith dywys yn olrhain ei lwybrau. Cawn hefyd orffwysgerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths a Diweddgan o waith y Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd, cawn glywed gan fwy o feirdd categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Sioned Erin hughes a Meleri Davies. Hyn oll, a mwy!!! Mwynhewch, rhannwch, barddonwch.

Clera Mai 2025
Duw gwyddiad mae da gweddai Dechreuad mwyn dyfiad Mai. Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod newydd o Clera, sef podlediad barddol Cymraeg yn trafod agweddau o bob math ar farddoni yng Nghymru. Cawn Orffwysgerdd gan fardd y gadair yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Iwan Morgan, sgyrsiau gyda'r artist Marian Haf a Siôn Tomos Owen, y Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, y pwnco a llawer llawer mwy! Diolch hefyd i Tudur Dylan Jones a'i awyren am y llun bendigedig ar glawr y bennod.

Clera Ebrill 2025
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn, ynglŷn a'i gyfrol fendigedig newydd, Cerddi'r Ystrad. Ar ben hyn oll, cawn sgwrsa gyda'r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, a hefyd y delicyssi gan Dylan, Tudur Dylan, neb llai. Ac ar ddiwedd y bennod, syrpreis bach ar eich cyfer. mwynhewch!

Clera Mawrth 2025
Clera Mawrth 2025 by Clera

Clera Chwefror 2025
Croeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd Gwlad, yn ogystal â cherdd yn egsliwsif o gyfrol newydd Jo Heyde. Ar ben hynny, cawn hefyd gerdd newydd sbon gan Fardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne. Hyn, a llawer mwy!

Clera Ionawr 2025
Clera Ionawr 2025 by Clera

Clera Rhagfyr 2024
Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol! Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera Nadalek llawen i chi gyd!

Clera Tachwedd 2024
Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.

Clera Hydref 2024
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera