Yr Hen Iaith
116 episodes — Page 3 of 3

Pennod 15 - Roc-an-Rôl a’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd
Mae’r bennod hon yn gyfle i ni fyfyrio ynghylch y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth gyfandirol wrth i ni drafod y cam nesaf yn natblygiad y chwedloniaeth Arthuraidd. Beth am y chwedlau ‘brodorol’ Cymraeg hynny sy’n dangos dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg? Sut mae canfod creadigaethau artistig sydd wedi’u hadeiladu ar sylfeini Cymreig traddodiadol ond sydd hefyd yn ddyledus mewn modd amlwg iawn i ddylanwadau ‘estron’? Awgrymwn fod hanes roc-an-rôl yn cynnig cymhariaeth hylaw. A beth yw’r gwahaniaethau rhwng yr hen fyd Arthuraidd Cymreig a’r llenyddiaeth gyfandirol hon? A yw’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd hwn yn nes o lawer at y darlun Hollywoodaidd o’r brenin arwrol? // Rock and Roll and the Welsh-European Arthur This episode provides an opportunity for us to think about the relationship between Welsh literature and continental literature as we discuss the next step in the development of Arthurian legendry. What about those ‘native’ Welsh tales which were influenced by French literature? How do we perceive artistic creations which were constructed on traditional Welsh foundations but which are also indebted in a very obvious way to ‘foreign’ influences? We suggest that the history of rock and roll provides a useful comparison. And what are the differences between the old Welsh Arthurian world and this continental literature? Is this Welsh-European Arthur a lot closer to Hollywood’s version of the heroic king? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: Ceridwen Lloyd-Morgan a Erich Poppe (goln.), Arthur in the Celtic Languages (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2019)

Pennod 14 - O’r Apocalyps Arthuraidd i Fashion Casualties: Hanes Cryno Cad Gamlan
Pwnc ychydig yn wahanol sydd gennym y tro hwn, un a gododd yn y penodau diwethaf wrth drafod llenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg gynnar. Yn y bennod hon, rydym ni’n olrhain cyfeiriadau llenyddol at gad Gamlan trwy ganrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg. Brwydr fawr olaf yr arweinydd enwog oedd cad Gamlan, cyflafan a chwalodd deyrnas ac oes aur Arthur. Awgrymwn fod traddodiadau’n ymwneud â’r ‘Apocalyps Arthuraidd’ yma yn fodd i strwythuro’r holl stori Arthuraidd fawr, fel y mae myfyrdodau apocalyptaidd yn y Beibl yn fodd i strwythuro meddwl Cristnogol yn gyffredinol. Mae’n wedd ddwys ar y traddodiad llenyddol Cymraeg, felly, ond mae agwedd ddoniol hefyd, fel y cewch glywed. From the Arthurian Apocalypse to Fashion Casualties: A Brief History of the Battle of Camlan We go after a slightly different subject this time, one which cropped up during the past episodes while discussing early Welsh Arthurian literature. In this episode we trace literary references to the Battle of Camlan through centuries of Welsh literature. ‘Cad Gamlan’ was the famous leader’s last big battle, a slaughter which destroyed Arthur’s realm and golden age. We suggest that traditions concerning this ‘Arthurian Apocalypse’ are a way of structuring all of the great Arthurian story, just as apocalyptical mediations in the Bible are a way of structuring Christian thought in general. It is perhaps one of the more intense aspects of the Welsh literary tradition, but there is also humour here as well, as you’ll hear. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.

Pennod 13 - Ennill Olwen
Rydym ni’n gorffen trafod y chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn y bennod hon, gan ddechrau gyda’r chwech arwr y mae Arthur yn eu dewis i helpu Culhwch gael hyd i ferch Ysbaddaden Pencawr. (Ac felly, ynghyd â’r darpar briodfab ei hun, dyma fersiwn Cymraeg canoloesol o’r ‘Saith Samauri’ neu’r ‘Magnificent Seven’!) Mae Olwen yn ymddangos o’r diwedd – a chawn ddisgrifiad trawiadol a chofiadwy ohoni – ac wedyn mae’n rhaid i’r saith wynebu’r Pencawr ei hun. Ac mae’n rhaid iddynt gyflawni llwyth o wahanol dasgiau – pob un yn naturiaeth ynddi’i hun – cyn y câi Culhwch briodi Olwen, ac byddai’n rhaid troi at Arthur a’i arwyr am gymorth eto er mwyn eu cyflawni. Ceir yma anturiaethau lu, felly, ond ceir hefyd hiwmor grotésg a myfyrdodau dwys am y berthynas rhwng pobl a byd natur. Winning Olwen We finishing discussing the tale ‘Culhwch and Olwen’ in this episode, starting with the six heroes whom Arthur choses to help Culhwch find the daughter of Ysbaddaden Chief of Giants. (And thus, along with the would-be bridegroom himself, here’s a medieval Welsh version of the ‘Seven Samauri’ or ‘The Magnificent Seven’!) Olwen appears finally – and we get a striking and memorable description of her – and then the seven must face the Chief of Giants himself. And they have to fulfil a great number of various tasks – each one an adventure in itself – before Culhwch can marry Olwen, and he’ll have to turn to Arthur and his heroes for more help in order to accomplish it all. So numerous adventures are to be had here, but also grotesque humour and deep meditations on the relationship between people and the world of nature. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: Rachel Bromwich a D. Simon Evans (goln.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2012). Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980)

Pennod 12 - Arthur y Barbwr
Gan fod ‘Culhwch ac Olwen’ yn chwedl mor fawr a mor bwysig, rydym wedi neilltuo dwy bennod gyfan i’w thrafod hi. Eglurwn yn y bennod hon pam fod y stori ganoloesol hon mor ddiddorol a pham bod y testun llenyddol hwn mor bwysig. Dyma gyfle i weld yr Athur Cymreig a Chymraeg cynhenid ar ei orau, yng nghanol camp a rhemp llys sy’n llawn cymeriadau rhyfeddol. Ond mae hefyd yn stori am ymgais Culhwch i gael hyd i Olwen a’i phriodi, ac mae stori werin draddodiadol am arwr yn priodi merch y cawr yn fframwaith ar gyfer llwyth o anturiaethau. Nodweddir y chwedl hon gan gyflawnder o gymeriadau Arthuraidd, gan gynnwys ambell un a fydd yn gyfarwydd i ddilynwyr ‘Yr Hen Iaith’ (fel y porthor Glewlwyd Gafaelfawr, er enghraifft, a fedyddiwyd gan Richard Wyn Jones yn ‘Gyfaill y Pod’). Ac, ie, pam bod Culhwch yn mynd at Arthur er mwyn cael torri’i wallt?! Arthur the Barber As ‘Culhwch and Olwen’ is such a big tale and such an important one, we’ve devoted two entire episodes to discussing it. We explain in this this episode why this medieval story is so interesting and why this literary text is so interesting. Here’s an opportunity to see the original Welsh Arthur at his best, in the middle of the feats and excess of a court full of wondrous characters. But here also is a story about Culhwch’s attempt to find and marry Olwen, and a traditional folk tale about a hero wedding the giant’s daughter serves that serves as a framework for a great many adventures. This tale is graced by an abundance of Arthurian characters, including some who will be familiar to followers of ‘Yr Hen Iaith’ (such as the gatekeeper Glewlwyd Gafaelfawr, for example, dubbed ‘Friend of the Pod’ by Richard Wyn Jones). And, by the way, why does Culhwch go to Arthur in order to have his hair cut? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: - Rachel Bromwich a D. Simon Evans (goln.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2012). - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980)

Pennod 11 - Y Traddodiad Arthuraidd: Rhodd fwyaf Cymru i’r Byd?
O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb. Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Arthuraidd mewn llawer o wahanol ieithoedd, ac mae’r daith ryfeddol hon yn parhau heddiw, gan gofio’r holl ffilmiau Holywoodaidd, nofelau ffantasi a gemau cyfrifiadorol sy’n dangos ddylanwad y traddodiad cyfoethog hwn. Ond dechreuodd y cyfan yma yng Nghymru – neu, hwyrach, dechreuodd yn yr iaith Gymraeg (gan gofio nad ffiniau presennol Cymru oedd ffiniau’r iaith Gymraeg yn yr Oesau Canol cynnar). A oedd Arthur yn gymeriad hanesyddol ar y dechrau? Beth yw’r enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg sydd wedi goroesi? Trafodwn y cwestiynau hyn, ac wrth fynd i’r afael â gwreiddiau’r traddodiad Arthuraidd edrychwn ar rai o’n hoff drioedd, gan gynnwys ‘Tri Gwrfeichiad Ynys Prydain’, a gyfieithir gan Rachel Bromwich fel ‘The Three Powerful Swineherds of the Island of Britain’! // The Arthurian Tradition: Wales’s Greatest Gift to the World? Considering all of the culture produce of the Welsh language through the centuries, what has had the greatest influence on the cultures of other languages and other nations? We suggest in this episode that stories about the heroic king Arthur is the answer to that question. By the end of the Middle Ages, this legendry would travel across Europe and give birth to Arthurian literature in many different languages, and this wondrous journey continues today, considering all of the Holywood films, fantasy novels and computer games which display the influence of this rich tradition. But all of it started here in Wales – or, rather, it started in the Welsh language (remembering that the present borders of Wales were not the borders of the Welsh language in the early Middle Ages). Was Arthur a real historical figure to begin with? What are the earliest examples of Welsh Arthurian literature which have survived? We discuss these questions, and while getting to grips with the roots of the Arthurian tradition we look at some of our favourite triads, including ‘Tri Gwrfeichiad Ynys Prydain’, translated by Rachel Bromwich as ‘The Three Powerful Swineherds of the Island of Britain’! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman a Brynley F. Robers (goln.), The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature (Caerdydd, 1991) Rachel Bronwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain [:] The Triads of the Island of Britain (Caerdydd, 1961 [4ydd argraffiad 2014])

Pennod 10 - Llais Heledd
Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy. Dyma hefyd lais benywaidd prin sy’n wrthbwynt i natur wrywaidd lethol y traddodiad barddol canoloesol. Nodwn wrth fynd heibio fod y farddoniaeth bwerus hon wedi dylanwadu’n drwm ar lenyddiaeth a cherddoriaeth Gymraeg yr 20fed ganrif hefyd. Ac mae trafodaeth am arwyddocâd treiglad sy’n pwysleisio – ormod, ym marn Richard Wyn Jones, efallai! – fod y math yma o fanylyn gramadegol yn gallu bod yn allweddol bwysig i ystyr a naws testun llenyddol. // The Voice of Heledd In this episode we discuss ‘Canu Heledd’, the medieval poetry which tells the story of a princess from the old kingdom of Powys who witnessed the death of her family and the destruction of her society. Rather than telling the story, these lyrical poems concentrate on Heledd’s emotional reaction. This is literature which treats loss, grief and longing in a painful and memorable way. Here too is a rare female voice which is a counterpoint to the medieval bardic tradition’s overwhelmingly male character. We also note in passing that this powerful poetry has had a significant influence on the Welsh literature and music of the 20th century. And there is a discussion about the significance of a mutation which emphasizes – perhaps too much for Richard Wyn Jones! – that this kind of tiny grammatical detail can be key to the meaning and mood of a literary text. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach/Further Reading: Jenny Rowland, Early Welsh Saga Poetry: A Study and Edition of the Englynion (Caergrawnt: D. S. Brewer, 1990).

Pennod 9 - Wyt ti’n cofio Macsen?
disgrifiad

Pennod 8 - Dau Frawd a Thair Gormes
Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron ymosod arni. Mae Lludd yn frenin ar Brydain ac mae’i frawd Llefelys yn priodi merch brenin Ffrainc. Ond pan ddaw tair gormes estron i fygwth teyrnasiad Lludd, mae’n rhaid iddo fanteisio ar ddoethineb ei frawd. Cewch glywed hanes y Ddraig Goch sydd ar faner Cymru a chlywed Richard Wyn Jones yn mynd i hwyl wrth ddychmygu’r Cymro Ffrengig Llefelys. Ac, wrth gwrs, cewch ddysgu beth yw ystyr ‘cyfranc’. // Two Brothers and Three Invasions The Tale of Lludd and Llefelys is under our microscope in this episode. Although it’s a very short tale, it’s a big story, and one which can be seen as a bridge between Welsh legendry and Welsh historiography. By looking fancifully at history, this text engages a theme central to Welsh identity, namely the fact that the Welsh are the descendants of the original inhabitants of the island before foreign nations invaded. Lludd is king of Britain and his brother Llefelys marries the king of France’s daughter. But when three foreign invasions threaten Lludd’s rule, he has to take advantage of his brother’s wisdom. You’ll learn some of the story behind the Red Dragon on the Welsh flag and hear Richard Wyn Jones clown it up as he imagines the French Welshman Llefelys. You’ll also learn the meaning of cyfranc, the word describing the tale itself. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. // Darllen pellach: - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) Further Reading: - Gwyn Jones and Thomas Jones (translators), The Mabinogion (revised edition, London, 1993) - Sioned Davies (translator), The Mabinogion (Oxford: OUP, 2008)

Pennod 7 - Trafferthion Teuluol Math
Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’. Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-destun y realiti hyll hwnnw; mae Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd, ac mae aelodau o’i lys ei hun, ei neiant Gwydion a Giflaethwy, yn creu trafferth sylweddol iddo. Dyma stori dywyll sy’n archwilio tueddiadau gwaethaf y ddynoliaeth, gan gynnwys trais ar sail rhywedd. Yn y gainc hon hefyd y mae Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn ymddangos, cymeriadau sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau lawer, er bod ailysgrifennu’r chwedl dreisgar hon a’i throi’n stori i blant yn beth hynod heriol! // Math’s Family Troubles In this episode we discuss the last of the Four Branches of the Mabinogi, the tale ‘Math son of Mathonwy’. We look at the ugly reality of medieval Wales and note that members of a Welsh prince’s own family were often as much of a threat to him as possible enemies beyond his borders. Despite all of the magic and fantasy in this story, we suggest that it’s possible to analyse it in the context of that ugly reality; Math son of Mathonwy is lord of Gwynedd, and members of his own court, his nephews Gwydion and Gilfaethwy, create considerable trouble for him. This is a dark tale which examines the worst aspects of human experience, including gender-based violence. It is also in this branch that Llaw Gyffes and Blodeuwedd appear, characters who have inspired many generations, even though turning this violent tale into a children’s story is an incredibly difficult thing to do! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Ian Hughes (gol.), Math uab Mathonwy: the fourth branch of the Mabinogi (Dulyn: Dublin Institute for Advanced Studies, 2013) - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) Further Reading: - Ian Hughes (ed.), Math uab Mathonwy: the fourth branch of the Mabinogi (Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies, 2013)

Pennod 6 - Manawydan a Seiliau Cymdeithas
Trafodwn Drydedd Gainc y Mabinogi yn y bennod hon, chwedl ‘Manawydan fab Llŷr’, stori sy’n wrthbwynt i’r ceinciau eraill ac sydd â gwrthgyferbyniadau trawiadol mewnol. Yn hytrach na brwydrau mawr epig a champau arwrol, yr hyn a gawn yn y stori hon yw myfyrdodau ynghylch seiliau cymdeithas a hanfod gwareiddiad. Mae’r testun hwn yn hollbwysig hefyd er mwyn deall mai cyfanwaith yw Pedair Cainc y Mabinogi. Yn dilyn y rhyfel apocalyptaidd a ddaw ar ddiwedd yr Ail Gainc, rydym ni’n dilyn dau o’r goroeswyr, Pryderi a Manawydan. Pan ddaw’r hud ar Ddyfed, rhaid i’r ddau gyfaill a’u gwragedd, Cigfa a Rhiannon, ddysgu byw o’r newydd, yn gyntaf trwy hela, ac wedyn trwy arddel crefftau, ac yn y diwedd trwy amaethu. Yn groes i Pryderi sydd wastad am dynnu’i gleddyf a datrys problemau yn yr hen ffordd dreisgar, mae Manawydan yn ennill yn y diwedd trwy ymbwyllo, osgoi tywallt gwaed a dilyn y gyfraith. Nid cryfder allanol sy’n gwneud Manawydan yn arwr, ond ei ddoethineb a’i gryfder mewnol. // We discuss the Third Branch of the Mabinogi in this episode, the tale of ‘Manawydan son of Llŷr’, a counterpoint to the other branches and a story with striking internal contrasts. Instead of big epic battles and heroic feats, this tale presents meditations on the foundations of society and the essence of civilization. It is also essential for understanding that the Four Branches of the Mabinogi form a coherent whole. Following the apocalyptical war at the end of the Second Branch, we follow two of the survivors, Pryderi a Manawydan. When an enchantment falls on Dyfed, the two friends and their wives, Cigfa and Rhiannon, must learn to live anew, first by hunting, then by working as craftsmen, and, in the end by farming. Unlike Pryderi who always wants to draw his sword and solve problems in the old violent way, Manawydan wins in the end by reasoning, avoiding bloodshed and following the law. It is not external strength which makes Manawydan a hero, but rather his wisdom and his internal strength. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Ian Hughes (gol.), Manawydan uab Llyr: trydedd gainc y Mabinogi: golygiad newydd ynghyd â nodiadau testunol a geirfa lawn (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) - Andrew Welsh, ‘Manawydan fab Llŷr: Wales, England and the “New Man”’, yn C. W. Sullivan III (gol.), The Maginogi [:] A Book of Essays (Routledge, 2016) - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) Further Reading: - Andrew Welsh, ‘Manawydan fab Llŷr: Wales, England and the “New Man”’, yn C. W. Sullivan III (gol.), The Maginogi [:] A Book of Essays (Routledge, 2016) - Gwyn Jones and Thomas Jones (translators), The Mabinogion (revised edition, London, 1993) - Patrick K. Ford, The Mabinogi and Other Medieval Welsh Tales (new edition, 2008) - Sioned Davies (translator), The Mabinogion (Oxford: OUP, 2008)

Pennod 5 - Chwedl Branwen
Awgrymwn yn y bennod hon ei bod hi’n bosib darllen yr Ail Gainc fel beirniadaeth gymdeithasol radicalaidd. Ar ddechrau Chwedl Branwen ferch Llŷr daw Matholwch, Brenin Iwerddon, i ‘erchi’ Branwen, gan feddwl y bydd y briodas frenhinol yn sylfaen i gynghrair gwleidyddol a all wneud y ddwy ynys yn ‘gadarnach’. Ond yn hytrach na heddwch a chynnydd, mae uniad Branwen a Matholwch yn esgor ar ryfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i’w hachub. Tybed felly a oedd awdur y testun hwn yn ceisio awgrymu na ddylid defnyddio benywod fel nwyddau i’w ffeirio a bod perygl mewn priodas ddynastig? Agwedd hynod arall ar y gwaith llenyddol rhyfeddol hwn yw’r modd y gwelwn ddau fyd ar yr un pryd, gyda brawd Branwen, Bendigeidfran, ‘yn frenin coronog ar yr ynys hon’ – a ddisgrifir fel ‘Ynys y Cedyrn’ – ac hefyd yn arglwydd Cymreig a’i lys yn Harlech. Mae’r naill yn mynd â ni’n ôl i oes aur chwedlonol cyn i genhedloedd eraill ddod i gipio’r Ynys oddi ar hynafiaid y Cymry, ac mae’r llall yn gadael i ni ddarllen y stori mewn cyd-destun Cymreig mwy uniongyrchol. Awgrymwn hefyd fod diwedd y gainc hon yn ymdriniaeth lenyddol â PTSD milwyr sydd wedi dioddef mewn rhyfel. // We suggest in this episode that it’s possible to read the Second Branch of the Mabinogi as radical social criticism. At the start of the tale of Branwen Daughter of Llŷr, the king of Ireland, Matholwch, comes to seek Branwen’s hand, thinking that the royal marriage will be the basis for a political alliance which can make both islands stronger. But instead of peace and prosperity, the union of Branwen and Matholwch ends up leading to an apocalyptical war which kills most of Ireland’s population and most of the soldiers in the great army which crosses the sea to save her. Is this text’s author trying to suggest that women shouldn’t be traded like goods and that dynastic marriages are full of danger? Another remarkable aspect of this wonderful literary work is the way in which we see two worlds at once, with Branwen’s brother, Bendigeidfran, both as ‘crowned king of this island’ – described as ‘The Island of the Mighty’ – and as a Welsh lord with his court in Harlech. One takes us back to the legendary golden age before other nations took the Island from the ancestors of the Welsh, and the other allows us to read this story in a more direct Welsh context. We also suggest that the end of this branch is a literary treatment of the PTSD suffered by soldiers in the wake of war. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) Further Reading: - Gwyn Jones and Thomas Jones (translators), The Mabinogion (revised edition, London, 1993) - Patrick K. Ford, The Mabinogi and Other Medieval Welsh Tales (new edition, 2008) - Sioned Davies (translator), The Mabinogion (Oxford: OUP, 2008)

Pennod 4 - Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed
Yn y bennod hon trafodwn gainc gyntaf ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed. Er bod Pwyll ‘yn arglwydd ar saith cantref Dyfed’, fel y dywed brawddeg gyntaf y chwedl , nid oes ganddo lawer o ddoethineb. Yn wir, mae’n bosibl ei gweld hi fel stori am sut mae Pwyll yn dysgu bod yn bwyllog. Mae’n ymddwyn mewn modd byrbwyll nifer o weithiau ac mae’n rhaid i gymeriadau eraill – Arawn, brenin Annwfn a Rhiannon, gwraig Pwyll – ei helpu. Mae Rhiannon ymysg cymeriadau mwyaf cofiadwy’r traddodiad llenyddol Cymraeg, yn fenyw ddoeth sy’n siarad yn ffraeth ac yn rhoi’i gŵr amhwyllog yn ei le pan fo angen. O gofio cyd-destun hanesyddol uniongyrchol y gwaith llenyddol hwn, sef Cymru ‘Oes y Tywysogion’, mae’n bosibl darllen y chwedl hon fel ‘drych i dywysogion’, fel testun sy’n cynnig gwersi i ddarpar arweinwyr. In this episode we discuss the first of ‘The Four Branches of the Mabinogi’, the Tale of Pwyll, Lord of Dyfed. Although Pwyll is ‘lord of the seven cantrefs (‘hundreds’ or ‘provinces’) of Dyfed, as the tale’s first sentence says, he doesn’t possess much wisdom. Indeed, while Pwyll is this character’s name, pwyll is also a common noun in Welsh, meaning ‘sense’, ‘intelligence’ or ‘wisdom’. It’s possible to read this tale as a story about how Pwyll comes to embody his name, how he learns to become a wise and good ruler. We see him acting in some very unwise ways, and other characters – Arawn, king of Annwfn and Rhiannon, Pwyll’s wife – need to help him. Rhiannon is among the most memorable characters of the Welsh literary tradition, a wise woman who speaks wittily and puts her unwise husband in his place when need be. Remembering this literary work’s direct historical context, Wales of the ‘Age of the Princes’, it is possible to read this tale as ‘a mirror for princes’, a text which offers lessons to future leaders. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) - Catherine McKenna, ‘The Theme of sovereignty in Pwyll’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 29 (1980), 35-52. Further Reading: - Gwyn Jones and Thomas Jones (translators), The Mabinogion (revised edition, London, 1993) - Patrick K. Ford, The Mabinogi and Other Medieval Welsh Tales (new edition, 2008)

Pennod 3 - Y Chwedlau Brodorol
Y Mabinogion sydd dan sylw yn y bennod hon, ond rhaid egluro’n gyntaf nad dyna’r gair gorau i ddisgrifio’r straeon Cymraeg canoloesol hyn! Mae’n debyg mai William Owen Pughe (1759-1835) a fathodd y label, ond oherwydd cyfieithiadau Saesneg yr Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895) y daeth yn arferol i bobl led-led y byd gyfeirio at y chwedlau hyn fel The Mabinogion. Mae felly’n arfer Saesneg ddiweddar sydd wedi dylanwadu ar sut mae Cymry Cymraeg yn trafod y corff pwysig hwn o lenyddiaeth eu iaith! Mae 11 o’r chwedlau hyn, a dim ond mewn pedair ohonynt y mae’r gair mabinogi yn ymddangos (a dim ond unwaith fel mabinogion, a’r gair hwnnw’n gamgymeriad, mae’n debyg). Mae’n well gennym eu disgrifio fel ‘Y Chwedlau Brodorol’; er bod llawer iawn o ryddiaith Gymraeg ganoloesol sydd wedi goroesi, mae’r rhan fwyaf ohoni wedi’i chyfieithu o ieithoedd eraill. Yr hyn sy’n arbennig am y grŵp hwn o straeon canoloesol yw’r ffaith eu bod wedi’u hysgrifennu’n wreiddiol yn yr iaith Gymraeg. Dyma felly ffrwyth dychmyg storïwyr Cymraeg yr Oesau Canol. Ond a yw’n iawn ein bod ni’n eu gosod ar wahân yn y modd hwn? Cedwir y chwedlau hyn mewn dwy lawysgrif – Llyfr Gwyn Rhyddech (c.1350) a Llyfr Coch Hergest (c.1400), ac mae’r casgliadau pwysig hyn yn cynnwys mathau eraill o lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol hefyd. This episode considers The Mabinogion, but we have to explain first that this is not the best way of describing these medieval Welsh tales! It’s likely that William Owen Pughe (1759-1835) created the label, but it is because of the English translations published by Lady Charlotte Guest (1812-1895) that people all over the world came to refer to these tales as The Mabinogion. It’s thus a recent English tendency which has effected how Welsh speakers discuss this important body of their language’s literature! There are 11 of these tales, but the word mabinogi only appears in four of them (and only once as mabinogion, and that word is a mistake, most likely). We prefer to describe them as ‘The Native Prose Tales’; although there is a great amount of medieval Welsh prose which has survived, most of it was translated from other languages. What makes this group of medieval stories special is the fact that they were written originally in the Welsh language. In them we have the products of the imagination of medieval Welsh storytellers. But is it right that we set them apart in this way? These tales are preserved in two manuscripts – The White Book of Rhyddech (c.1350) and The Red Book of Hergest (c.1400), and these important collections contain other types of medieval Welsh literature as well. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) - Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002) Further reading: - Sioned Davies (translator), The Mabinogion (Oxford: OUP, 2008) - Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff: UWP, 2002)

Pennod 2 - Y Llawysgrif Gymraeg gyntaf (sydd wedi goroesi!)
Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, hanes ysgrifennu Cymraeg a natur llawysgrifau: Dechreua’r bennod hon drwy ystyried rhai o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifen Gymraeg sydd wedi goroesi, a nodi bod yr iaith wastad wedi bod yn gyfrwng i drafod dysg o wahanol fathau, gan gynnwys gwyddoniaeth. Trafodwn dechnoleg ysgrifennu’r cyfnod canoloesol, gan bwysleisio bod y llawysgrifau’n bethau prin, bregus a gwerthfawr. Wedyn, rydym ni’n oedi cryn dipyn ynghylch Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg – h.y., yn gyfan gwbl Gymraeg o ran iaith – sydd wedi goroesi. Pwy oedd y mynach a aeth ati i gynllunio a chreu casgliad o farddoniaeth Gymraeg, llawer ohoni’n gysylltiedig â’r bardd Myrddin chwedlonnol a roes ei enw i’r lle, yn ôl y stori? A yw’n bosibl dweud bod Myrddin yn ymryson â’r bardd chwedlonol arall hwnnw, Taliesin, am oruchafiaeth yn y traddodiad llenyddol? A beth am y llawysgrif bwysig honno â gyslltir ag ef, sef Llyfr Taliesin? Pam fod cymaint o’r farddoniaeth Gymraeg hon yn broffwydol, a beth yw dehongliad ‘pobl Pen’mynydd’ yn sir Fôn o’r Mab Darogan? *** The Black Book of Carmarthen, the Book of Taliesin, the history of writing Welsh and the nature of manuscripts: This episode begins by considering some of the earliest examples of Welsh writing which have survived, and noting that the language has always been a medium for discussion various kinds of learning, including science. We discuss medieval writing technology and emphasize that manuscripts are rare, fragile and valuable. Then we take some time with the Black Book of Carmarthen, the earliest surviving Welsh manuscript – that is, the earliest surviving manuscript written entirely in the Welsh language. Who was the monk who planned and created this collection of Welsh poetry, much of it connected to the legendary poet Myrddin for whom the place was supposedly named? Is it possible to say that Myrddin competes with that other legendary poet, Taliesin, for supremacy in the literary tradition? And what about that important manuscript connected with the competitor, the Book of Taliesin? Why is so much of this Welsh poetry prophetic in nature, and how do people from Penymynydd in Anglesey interpret the Mab Darogan or prophesied saviour? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Ifor Williams, The Beginnings of Welsh Poetry (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980) - A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfryddin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980) - Marged Haycock (gol. a chyf.), Legendary Poems from the Book of Taliesin (Aberystwyth: Cyhoeddiadau CMCS, 2007) - Patrick Sims-Williams, ‘The uses of writing in early medieval Wales’, yn Huw Pryce (gol.), Literacy in Medieval Celtic Societies (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1998) - Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002) *** Further Reading: - Ifor Williams, The Beginnings of Welsh Poetry (Cardiff: UWP, 1980) - Meirion Pennar, The Black Book of Carmarthen (Llanerch Press,1989) - Marged Haycock (ed. and trans.), Legendary Poems from the Book of Taliesin (Aberystwyth: CMCS Publications, 2007) - Patrick Sims-Williams, ‘The uses of writing in early medieval Wales’, in Huw Pryce (ed.), Literacy in Medieval Celtic Societies (Cambridge: Cambridge Universit y Press, 1998) - Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff: UWP, 2002)

Pennod 1 - Yn y dechreuad yr oedd... Y Gododdin (wel, efallai...)
Yn y bennod gyntaf hon trafodwn y gerdd (neu’r casgliad o gerddi cysylltiedig) a briodolir i’r bardd Aneirin, gan archwilio dadleuon sy’n cefnogi – ac sy’n herio – y gred gyffredin mai’r farddoniaeth hon yw’r testun llenyddol Cymraeg cynharach sydd wedi goroesi. A yw’n bosib bod gwaith llenyddol am frwydr a ymladdwyd tua’r flwyddyn 600 yn yr Hen Ogledd (sef de’r Alban a gogledd Lloegr) wedi’i gadw mewn llawysgrif Gymraeg o’r 13eg ganrif? Beth mae’r Gododdin yn dweud wrthym am y traddodiad barddol Cymraeg yn gyffredinol? A beth yw tarddiad y gair Cymraeg ‘meddwi’ a beth a wnelo hynny â’r Gododdin? Dyma rai o’r cwestiynau sydd dan sylw. In the beginning there was the Gododdin (well, maybe . . .) In this first episode we discuss the poem (or the collection of connected poems) attributed to the bard Aneirin, examining arguments which support – and which challenge – the common belief that this poetry is the oldest surviving Welsh literary text. Is it possible that a literary work about a battle fought around the year 600 in the ‘Old North’ (that is, southern Scotland and northern England) was preserved in a Welsh manuscript from the 13th century? What does the Gododdin tell us about the Welsh bardic tradition? And what is the origin of the Welsh word meddwi, ‘to get drunk’, and what does that have to do with the Gododdin? These are some of the questions considered. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938 [adargraffiad: 1978]) - A. O. H. Jarman (gol. a chyf.), Aneirin: Y Gododdin [:] Britain’s Oldest Heroic Poem (Llandysul: Gwasg Gomer, 1990), - Kenneth H. Jackson, The Gododdin: The Oldest Scottish Poem (Caeredin: Edinburgh University Press, 1969). - John T. Koch, The Gododdin of Aneirin: Text and Context from Dark-Age North Britain (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997). - Patrick Sims-Williams, ‘Dating the Poems of Aneirin and Taliesin, Zeitschrift für Celtische Philologie 63 (2016), 163-234. Further reading: - A. O. H. Jarman (ed. and trans.), Aneirin: Y Gododdin [:] Britain’s Oldest Heroic Poem (Llandysul: Gomer, 1990), - Kenneth H. Jackson, The Gododdin: The Oldest Scottish Poem (Edinburgh: Edinburgh University Press, 1969). - John T. Koch, The Gododdin of Aneirin: Text and Context from Dark-Age North Britain (Cardiff: University of Wales Press, 1997). - Patrick Sims-Williams, ‘Dating the Poems of Aneirin and Taliesin, Zeitschrift für Celtische Philologie 63 (2016), 163-234.

Treilyr Yr Hen Iaith
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/YrHenIaith Ac hefyd, os dych chi'n joio gwrando ar y pod, gadewch adolygiad neu sgôr yn eich hoff ap podlediadau.