Y Dihangiad
462 episodes — Page 9 of 10
Tour de France 2018: Cymal 9
Y peloton yn cyrraedd Roubaix, ond Porte ar ei ffordd adre.
Tour de France 2018: Cymal 8
Groenwegen yn ennill ei ail gymal a Dewi a Rheinallt yn edrych ymlaen at y coble
Tour de France 2018: Cymal 7
Dylan Groenewgen yn ennill ei gymal cyntaf o'r daith. 'Na fe
Tour de France 2018: Cymal 6
Dan Martin oedd ennilydd cymal 6. Romain Bardet a Tom Dumoulin a gollodd y cymal. Geraint yn edrych yn gyfforddus
Tour de France 2018: Cymal 5
Peter Sagan yn dangos i'r peloton taw fe yw'r cryfa a Rheinallt yn dangos i Dewi bod e'n gallu chwarae gitar
Tour de France 2018: Cymal 4
Fernando Gaviria yn ennill cymal 4 ond ma Dewi a Rheinallt yn awchu am gymal 5
Tour de France 2018: Cymal 3
BMC yn ennill y RTEC, a Greg Van Avermaet yn cipio'r crys melyn.
Tour de France 2018: Cymal 2
Peter Sagan yn cipo'r cymal a'r crys melyn. Geraint yn dwyn eiliad...
Tour de France 2018: Cymal 1
Gaviria yn ennill. Ffefrynne yn colli amser. Dewi a Rheinallt yn trafod.
Tour de France 2018: Y Ffefrynnau
Yn yr ail bodlediad rhagolwg, mae Dewi a Rheinallt yn bwrw golwg dros y ffefrynnau
Tour de France 2018: Y Cwrs
Yn rhan un o ddau bodlediad rhagolwg, mae Dewi a Rheinallt yn bwrw golwg dros gwrs y Tour - ac mae'n plesio!
'Rôl y Swistir
A ninnau wedi cau pen y mwdwl ar y Dauphiné yn y bennod ola, dyma gyfle i drafod gweddill rasus paratoi'r Tour - Taith y Swistir, Taith Slofenia a'r Route d'Occitaine
Y Dauphiné a Dinefwr
Geraint yn ennill y Dauphiné, Taith y Swistir, cwrs Taith Prydain (menywod a dynion) a'r Giro dan 23
Critérium du Dauphiné
 Gorffennaf yn agosau, pwy fydd yn tanio cyn y Tour?
Giro d'Italia 2018: Y Bore Wedyn
Wrth ffarwelio â'r Giro, mae Dewi a Rheinallt yn trafod diweddglo syfrdanol i rediad 2018
Giro d'Italia 2018: Diwrnod Gorffwys Ola'
Cyfle ola i drafod ras wefreiddiol, cyn y frwydr ddi-stop i Rufain
Giro d'Italia 2018: Diwrnod Gorffwys
Yr ail ddiwrnod gorffwys, a chyfle i gnoi cil ar ddigwyddiadau'r Giro hyd yn hyn
Giro d'Italia 2018 - Rhagolwg
Bydd rhediad dadleuol iawn o'r Giro yn cychwyn ddydd Gwener - dyma ragolwg Dewi a Rheinallt
Adios Ardenas!
Yn y bennod hon, ma'r bois yn bwrw golwg yn ôl dros rasus yr Ardennes a'r Alpau, yn ogystal â chychwyn y Tour de Romandie yn y Swistir
Ardennes a'r Amstel Gold
Y tro hwn, mae Dewi a Rheinallt yn trafod gorfoledd a galar Paris-Roubaix, cyn troi eu sylw at glasuron bryniog yr Ardennes
Uffern y Gogledd
'Rôl edrych yn ôl ar rasio'r Ronde, mae ein sylw yn troi at Uffern y Gogledd: Paris-Roubaix
Taith Fflandrys 2018 - Rhagolwg
Mae'r Ronde yn ran annatod o enaid y Fflandrys fodern, ac yn wobr heb ei ail i arbenigwyr y clasuron coblog. Dyma ragolwg Dewi a Rheinallt
Gogoniant y Gwanwyn
Milan-Sanremo, Volta a Catalunya, a'r hyn sydd i ddod yn E3 Harelbeke a Gent Wevelgem
Yr Adroddiad
Yn eu sgwrs diweddara mae Dewi a Rheinallt yn mynd i'r afael â chynnwys (a goblygiadau) adroddiad y DCMS; cyn trafod y rasio yn Strade Bianche, Paris-Nice, Tirreno-Adriatico a Milan-Sanremo, moniwment cynta'r flwyddyn, sydd mlaen ddydd Sadwrn.
Parch i'r Hewlydd Calch
Yn ogystal ag edrych nôl ar Openingsweekend a Le Samyn, ma'r bois yn trafod un o rasys gore'r flwyddyn - Strade Bianche
Openings Weekend 2018 - Rhagolwg
Mae Dewi a Rheinallt yn edrych ymlaen at ddechre tymor y clasuron dros yr openings weekend
Algarve, Andalucia ag Oman
Mae Dewi a Rheinallt yn trafod y rasio a'r canlyniadau diweddara
Beics ar y Bocs
Ma'r beics ar y bocs - ac ma'r bois yn bles!
Gair 'da Gruff
Podlediad arbenning yng nghwmni Gruff Lewis.
O'r Diwedd!
 ninnau ar drothwy tymomr newydd o feicio hewl, ma Dewi a Rheinallt yn falch i fod 'nôl!
Sgwrs 'da Scott
Pennod arbennig y tro yma, wrth i Dewi a Rheinallt gyfweld â'r Cymro Scott Davies, sydd ar fîn cychwyn rasio yn y World Tour gyda'i dîm newydd, Dimension Data
La Corsa Rosa
Episode Notes Wedi chwythu'r gwe pry cop oddi ar eu beciau, mae Dewi a Rheinallt yn trafod cwrs y Giro d'Italia 2018
Diwedd y Tymor
Episode Notes Wythnos 'ma, ma' Dewi a Rheinallt yn trafod clasuron ola'r tymor, Il Lombardia a Paris Tours
Diwedd y Byd
Episode Notes Wel, dyma ni - Peter Sagan yn bencampwr y byd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Un o oreuon y gamp erioed? Yn y bennod hon, ma' Dewi a Rheinallt yn trafod y ddau bwnc, cyn edrych ymlaen i weddill y tymor.
Pencampwriaeth y Byd 2017
Episode Notes Yn y bennod hon, mae Dewi a Rheinallt yn trafod y rasio ym Mhencampwriaethau'r Byd ym Mergen, Norwy
Vuelta a España 2017 - Ail ddiwrnod gorffwys
Episode Notes Nibali a Contador yn ceisio mynd i'r afael â goruchedd Sky, Lopez yn hedfan a Trentin yn tanio. Hyn a mwy ar ail ddiwrnod gorffwys y Vuelta
Vuelta a España 2017 – Diwrnod gorffwys cyntaf
Brwydr dosbarthiad cyffredinol y Vuelta, dyfodol bregus Cannondale-Drapac a phennod newydd yng ngyrfa Scott Davies. Digon i'w drafod yn y bennod hon!
Vuelta a España 2017 - Y penwythnos agoriadol
Episode Notes Yn ymuno da Rheinallt a Dewi ma Peredur, ac ma'r tri yn trafod tridie cynta'r Vuelta a España
Vuelta a España 2017 - Rhagolwg
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn edrych mlan at y Vuelta ac yn bwrw golwg dros y cwrs a'r ffefrynne i ennill y crys coch
Dychweliad Y Dihangiad
Episode Notes Ma Rheinallt a Dewi nol ar ol seibiant bach i drafod calendr prysur rasio mis Awst ac yn edrych ar y reidwyr sy wedi, a sy'n bwriadu, symud tim ar ddiwedd y tymor
Tour de France 2017 - Cymal 21
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn trafod y digwyddiadde ym Mharis. Diolch am wrando dros y dair wythnos ddwetha. Ni mynd i gario mlaen i drafod seiclo am amser hir i ddod. Gobeithio newch chi ymuno da ni
Tour de France 2017 - Cymal 20
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn cael ei ymuno gan Gruff i drafod yr hyn ddigwyddodd yn y ras yn erbyn y cloc ac yn edrych mlan at y cymal ola ym Mharis
Tour de France 2017 - Cymal 19
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn trafod llwyddiant Boasson Hagen ac yn edrych ar be sy mynd i ddigwydd yn y ras yn erbyn y cloc ym Marseille
Tour de France 2017 - Cymal 18
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn trafod y digwyddiade ar lethre'r Col d'Izoard; diwrnod lle welon ni pwy odd y cryfa yn y Tour de France eleni
Tour de France 2017 - Cymal 17
Episode Notes Yn y bennod ma, ma Rheinallt a Dewi yn trafod Aru'n colli amser, Kittel yn gadel y ras a beth sydd am ddigwydd fory
Tour de France 2017 - Cymal 16
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn trafod digwyddiade cymal 16; llwyddiant Sunweb, methiant Quickstep a'r croeswyntoedd cyn edrych ymlaen i gymal brenhines y daith eleni
Tour de France 2017 - Cymal 15
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn ymladd yn erbyn probleme sain i drafod digwyddiade cymal 15 i'w gofio
Tour de France 2017 - Cymal 14
Episode Notes Ma Rheinallt nol!! Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn trafod Michael Matthews, y crys melyn yn newid ysgwydde ac yn edrych mlan i gymal 15
Tour de France 2017 - Cymal 13
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Dewi yn trafod digwyddiade cymal 13 gyda'r sylwebydd Gareth Rhys Owen
Tour de France 2017 - Cymal 12
Episode Notes Yn y bennod hon, ma Rheinallt a Dewi yn trafod digwyddiade cymal 12, cymal sy di llwyr trawsnewid gwedd y ras ac yn edrych ymlaen at gymal byr a mynyddig fory.